Llieiniau gwrthficrobaidd
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Amcangyfrifir bod heintiau a gafwyd mewn ysbyty (HAI) yn costio tua £1 biliwn y flwyddyn i'r GIG.
Mae llieiniau gwrthficrobaidd yn gynhyrchion cymharol newydd, a ddefnyddir fwyfwy fel rhan o drefnau rheoli heintiau mewn lleoliadau gofal iechyd.
Yn benodol, defnyddir llieiniau i ddadheintio arwynebau drwy leihau neu ladd pathogenau microbaidd sy’n cyfrannu at heintiau a geir yn yr ysbyty.
Datblygu protocol profi
Datblygodd tîm Caerdydd dan arweiniad yr Athro Jean-Yves Maillard, brotocol profi wedi’i deilwra ar gyfer gwerthuso pa mor effeithiol yw llieiniau gwrthficrobaidd a alluogodd y broses o gynllunio, gwerthuso a marchnata cynhyrchion newydd a gyfrannodd at refeniw sylweddol i bartner diwydiant y DU.
Roedd y weithdrefn yn galluogi gwerthuso perfformiad llieiniau gwrthficrobaidd yn gywirac yn cyflwyno canlyniadau adrodd meintiol a oedd yn cynnwys:
- canran y biofaich microbaidd a dynnir o arwynebau
- canran atal trosglwyddo o lieiniau gwlyb i arwynebau
- canran lladd micro-organebau targed a gedwir o fewn y lliain.
Nid yn unig yr argymhellir y weithdrefn gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ac yn sail i well safonau ar gyfer profion effeithlonrwydd ond mae wedi caniatáu i weithgynhyrchwyr a defnyddwyr terfynol ddeall effeithlonrwydd cynnyrch yn effeithiol.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:
Yr Athro Jean-Yves Maillard
Professor of Pharmaceutical Microbiology
- maillardj@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9088