Gwell capsiwlau anadlydd powdr sych ar gyfer clefyd parhaol yr ysgyfaint
Mae’n hymchwil wedi helpu cwmni Qualicaps® i gynhyrchu capsiwlau ar gyfer anadlyddion powdr sych, a rheoli eu hansawdd.
Ar y cyd â chwmni Qualicaps®, sy’n flaenllaw ledled y byd ym maes capsiwlau anadlyddion, dyfeisiodd yr Athro James Birchall a’r Dr Sion Coulman (Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd) brawf i werthuso pa mor effeithiol y gellid tyllu capsiwlau anadlyddion powdr sych.
Mae’n hymchwil wedi llywio prosesau cynhyrchu’r cwmni, helpu’r cwmni i werthu llawer mwy o’i brif gynhyrchion a’i alluogi i gyrchu marchnadoedd newydd. Mae miliynau o gleifion clefyd parhaol yr ysgyfaint ledled y byd yn defnyddio’r capsiwlau mewn anadlyddion powdr sych bellach.
Sut mae capsiwlau'n cael eu defnyddio mewn anadlyddion powdr sych ar gyfer clefyd parhaol yr ysgyfaint
Bydd meddygon yn rhagnodi miliynau o anadlyddion powdr sych bob blwyddyn i gleifion clefyd parhaol yr ysgyfaint megis asthma.
Mae gan sawl anadlydd o’r fath gapsiwl sy’n cynnwys cyffur powdr. Wrth ddefnyddio’r anadlydd, bydd claf yn gwasgu botwm sy’n gwthio pinnau i dorri trwy wal y capsiwl. Yna, bydd powdr yn y capsiwl yn llifo trwy’r tyllau fel y gall y claf ei anadlu i mewn a lleddfu sumptomau clefyd yr ysgyfaint. Yna, bydd powdr yn y capsiwl yn llifo trwy’r tyllau fel y gall y claf ei anadlu i mewn a lleddfu sumptomau clefyd yr ysgyfaint.
Pennu sut y bydd deunyddiau a’r amgylchedd yn effeithio ar broses tyllu capsiwlau anadlyddion powdr sych.
Dyfeisiodd ein tîm ymchwil y prawf cyntaf o'i fath i bennu sut y gall deunydd capsiwl a’r lleithder a’r tymheredd o’i amgylch effeithio ar broses ei dyllu i ryddhau'r cyffur sydd ynddo.
O’u cymharu â chapsiwlau gelatin, dangoson nhw fod modd tyllu capsiwlau premiwm Qualicaps® sydd wedi’u gwneud o HPMC (hydroxypropylmethylcellulose) yn effeithiol pan fo’r lleithder yn isel. Dangosodd y tîm fod modd tyllu capsiwlau HPMC sydd wedi’u cadw mewn tymheredd isel yn effeithiol, hefyd.
Roedd y canfyddiadau hynny’n bwysig iawn i gwmni Qualicaps®. Fe roes y prawf ddata manwl i’w lledaenu ymhlith clientiaid oedd wedi mynegi pryder am effeithiau lleithder isel ar ansawdd a dibynadwyedd powdr sych mewn capsiwlau ar gyfer anadlyddion.
Llywio proses datblygu’r nwyddau, helpu’r cwmni i dyfu a gwella ansawdd y capsiwlau er lles cleifion.
Defnyddiodd tîm rheoli ansawdd Qualicaps® ganfyddiadau ein prawf i wella cynhyrchion. Dylanwadodd ein canfyddiadau ar fuddsoddiad newydd Qualicaps® yng ngwaith ymchwil a datblygu nwyddau ar gyfer anadlyddion, hefyd.
At hynny, mae’n hymchwil wedi llywio strategaeth farchnata a gwerthu Qualicaps® er twf y cwmni. Er enghraifft, mae Qualicaps® yn parhau i gyflwyno ein data mewn cynadleddau rhyngwladol o bwys ac yn crybwyll ein canfyddiadau yn ei ddeunyddiau marchnata i ddenu rhagor o fusnes.
Mae’n hymchwil wedi helpu’r cwmni i gynyddu nifer y capsiwlau HMRC mae’n eu gwerthu ar gyfer anadlyddion powdr sych o 91%. At hynny, mae’n canfyddiadau wedi llywio penderfyniad y cwmni i ddechrau hyrwyddo a gwerthu’r capsiwlau mewn marchnadoedd newydd ledled y byd. Fe roes ymchwil Prifysgol Caerdydd dystiolaeth gadarn y byddai capsiwlau premiwm Qualicaps® yn cael eu tyllu’n effeithiol mewn amryw dymereddau a gwahanol lefelau o leithder gan roi i’r cwmni hyder y gallai werthu ei nwyddau mewn gwledydd lle mae ffactorau amgylcheddol yn achosi pryder.
Ffeithiau allweddol
- Diben profion ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd oedd gweld a allai capsiwlau Qualicaps® (un o gyflenwyr mwyaf y byd ym maes capsiwlau anadlyddion) gael eu tyllu’n effeithiol.
- Mae Qualicaps® wedi defnyddio ein canfyddiadau i lywio ei strategaethau marchnata a gwerthu ac mae’n data wedi dylanwadu ar fuddsoddiad y cwmni yng ngwaith ymchwil a datblygu ei nwyddau ar gyfer anadlyddion.
- Gallai miliynau o gleifion clefyd parhaol yr ysgyfaint sy'n defnyddio capsiwlau Qualicaps® elwa ar ansawdd gwell yn sgîl ymchwil Prifysgol Caerdydd.
Dyma’r tîm
Yr Athro James Birchall
- birchalljc@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5815
Dr Sion Coulman
- coulmansa@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6418
Cyhoeddiadau
- Chong, R. H. et al. 2016. Evaluating the sensitivity, reproducibility and flexibility of a method to test hard shell capsules intended for use in dry powder inhalers. International Journal of Pharmaceutics 500 (1-2), pp.316-325. (10.1016/j.ijpharm.2016.01.034)
- Torrisi, B. M. et al. 2013. The development of a sensitive methodology to characterise hard shell capsule puncture by dry powder inhaler pins. International Journal of Pharmaceutics 456 (2), pp.545-552. (10.1016/j.ijpharm.2013.08.011)
- Birchall, J. C. , Jones, B. and Morrissey, A. 2008. A comparison of the puncturing properties of gelatin and hypromellose capsules for use in dry powder inhalers. Drug Development and Industrial Pharmacy 34 (8), pp.870-876. (10.1080/03639040801928903)