Mae technoleg ProTide Caerdydd wrthi’n dechrau treialon clinigol i dargedu canserau sy'n gwrthsefyll cyffuriau
Defnyddiwyd technoleg ProTide arloesol Caerdydd i ddatblygu cyfansoddion cyffuriau a allai arwain at driniaethau canser mwy effeithiol.
Rhagnodir cemotherapi i filiynau o gleifion canser sy'n defnyddio cyffuriau sy'n seiliedig ar niwcleosidau i geisio targedu celloedd canser. Fodd bynnag, mae rhai mathau o ganser yn gallu gwrthsefyll y cyffuriau hyn. Mae ymchwilwyr Caerdydd wedi defnyddio eu technoleg o blaid niwcleotidau (ProTide) i ddatblygu cyfansoddion newydd sy'n gweithio ar y cyd â chyffuriau cemotherapi presennol i'w gwneud yn fwy effeithiol. Mae tri o gyffuriau ProTide gwrth-ganser Caerdydd wedi dechrau treialon clinigol, gan arwain at obaith newydd i gleifion sy'n byw gyda rhai o'r canserau anoddaf i’w trin.
Cyfyngu rhai cyffuriau cemotherapi
Defnyddir cyffuriau cemotherapi i atal twf celloedd canser heb reolaeth. Gelwir dosbarth mawr o gyffuriau cemotherapi yn gydweddau Niwcleosid. Mae’r rhain yn atal tiwmor rhag tyfu drwy atal DNA rhag dyblygu ac mae hyn, yn ei dro, yn arwain at farwolaeth celloedd â chanser. Fodd bynnag, gall rhai celloedd â chanser wrthsefyll cyffuriau sy'n seiliedig ar niwcleosidau gan eu gwneud yn llai effeithiol o ran trin mathau penodol o ganser. Mae cyffuriau cemotherapi hefyd yn targedu celloedd iach yn ogystal â chelloedd canser gan arwain at gleifion sy’n wynebu sgil-effeithiau difrifol.
Beth yw technoleg ProTide Caerdydd?
Ar ddechrau'r 1990au, arweiniodd y diweddar Athro Chris McGuigan dîm o ymchwilwyr yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd i ddatblygu platfform cemegol i ddylunio a chyfuno cyfansoddion cemegol i’w datblygu’n gyffuriau. Gelwir y platfform hwn yn dechnoleg ProTide.
Mae technoleg ProTide yn cyfuno dosbarth presennol o gyffuriau o'r enw cydweddau niwcleotid gyda 'prodrug' sef cyfansoddyn cemegol sy'n cael ei droi yn y corff dynol yn gyffur sy’n gweithio mewn ffordd ffarmacolegol. Drwy ychwanegu'r ‘prodrug’, gall cydweddau niwcleotid gyrraedd y celloedd targed er mwyn peri eu bod yn gweithio'n fwy effeithiol.
Defnyddio technoleg Caerdydd i drawsnewid cyffuriau gwrth-ganser
Defnyddiwyd cyfansoddion ProTide Caerdydd i ddechrau i wella effeithiolrwydd cyffuriau gwrthfeirysol i drin amrywiaeth o feirysau sy'n bygwth bywyd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r tîm ymchwil yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd wedi ehangu'r defnydd o ProTides i dargedu canserau sy'n gwrthsefyll cyffuriau.
Erbyn diwedd 2021, roedd ProTides Caerdydd mewn datblygiad clinigol ar draws ystod o astudiaethau clinigol gan gynnwys:
Treialon clinigol ar gyfer deilliad o 5-fluorouracil a gynlluniwyd i dargedu tiwmor solet datblygedig
Mae'r treial hwn wedi dangos manteision cadarnhaol o ran gweithgarwch a diogelwch o'i gymharu â'r driniaeth 5-fluorouracil safonol o diwmorau canser solet. Mae astudiaethau clinigol pellach bellach ar y gweill i benderfynu pa mor effeithiol y gallai'r ProTide hwn fod pan gaiff ei ddefnyddio ar y cyd â gwahanol gyffuriau ar gyfer canser y colon a’r rhefr.
Treialon clinigol ar gyfer trawsnewidiad ProTide o cordycepin
Dangosodd Cordycepin weithgarwch gwrth-ganser cryf mewn astudiaethau cyn-glinigol ond nid oedd wedi'i ddatblygu fel cyffur cemotherapi oherwydd ei ddadansoddiad metabolig cyflym. Mae trawsnewidiad ProTide o Cordycep yng Nghaerdydd yn cael ei astudio'n glinigol ar hyn o bryd mewn cleifion â thiwmorau solet.
Gallai'r treialon hyn arwain at well triniaethau i fynd i'r afael ag amrywiaeth o ganserau anodd eu trin yn y blynyddoedd i ddod.
Ym mis Awst 2009, dechreuodd cwmni biofferyllol newydd yn y DU o'r enw NuCana gytundeb cydweithio a thrwyddedu ymchwil gyda Phrifysgol Caerdydd yn seiliedig ar gryfder ein hymchwil ProTide. Sefydlwyd NuCana i ddefnyddio technoleg ProTide Caerdydd i droi rhai o'r cyffuriau cemotherapi a ragnodir amlaf yn feddyginiaethau mwy effeithiol a mwy diogel i gleifion.
Ffeithiau allweddol
- Datblygodd Caerdydd blatfform cemegol i ddylunio a chyfuno cyfansoddion cemegol i’w datblygu’n gyffuriau.
- Mae cyfansoddion proTide yn gweithio ar y cyd â chyffuriau gwrth-ganser sy’n bodoli eisoes i'w gwneud yn fwy effeithiol.
- Mae tri o gyffuriau ProTide Caerdydd bellach wedi dechrau treialon clinigol gan arwain at obaith i gleifion sy'n byw gyda chanserau sy’n anodd eu trin.
Cwrdd â’r tîm
Yr Athro Andrea Brancale
- brancalea@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4485
Cyhoeddiadau
- Slusarczyk, M. et al. 2018. Synthesis and biological evaluation of 6-substituted-5-fluorouridine ProTides. Bioorganic and Medicinal Chemistry 26 (3), pp.551-565. (10.1016/j.bmc.2017.11.037)
- Slusarczyk, M. et al. 2014. Application of ProTide technology to Gemcitabine: A successful approach to overcome the key cancer resistance mechanisms leads to a new agent (NUC-1031) in clinical development. Journal of Medicinal Chemistry 57 (4), pp.1531-1542. (10.1021/jm401853a)
- McGuigan, C. et al. 2011. Phosphoramidate ProTides of the anticancer agent FUDR successfully deliver the preformed bioactive monophosphate in cells and confer advantage over the parent nucleoside. Journal of Medicinal Chemistry 54 (20), pp.7247-7258. (10.1021/jm200815w)
- Congiatu, C. et al., 2006. Novel potential anticancer naphthyl phosphoramidates of BVdU: Separation of diastereoisomers and assignment of the absolute cConfiguration of the phosphorus center. Journal of Medicinal Chemistry 49 (2), pp.452-455. (10.1021/jm0509896)