Ôl-raddedig a addysgir
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym yn falch o addysgu rhaglenni ôl-raddedig proffesiynol ar gyfer fferyllwyr cymwysedig. Rydym hefyd yn cynnig ein MSc Bioleg Canser a Therapeutics ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd eraill a gwyddonwyr biofeddygol.
Dyfarnwyd statws 'rhagorol' i'n Hysgol am ansawdd ein dysgu a'n haddysgu ac mae llawer o'n staff ymroddedig yn cynnal ymchwil arloesol o gydnabyddir yn rhyngwladol, felly pan fyddwch yn ymuno â ni, byddwch yn elwa o'u harbenigedd a'u cefnogaeth barhaus.
Byddwch hefyd yn gallu manteisio ar ein cyfleusterau o’r radd flaenaf gan gynnwys chwe ystafell ymgynghori newydd eu hadeiladu ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag ymarfer fferyllol. Rydym yn ymdrechu i helpu i ddatblygu gyrfaoedd ein myfyrwyr ôl-raddedig ac i wella bywydau cleifion yn y pen draw.
Astudiaeth ôl-raddedig ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd a gwyddonwyr biofeddygol
Ochr yn ochr â'n rhaglenni ar gyfer fferyllwyr cymwysedig, mae'r Ysgol yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig tra arbenigol ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd a myfyrwyr biofeddygol. Mae'r rhaglenni hyn yn rhoi gwybodaeth, dealltwriaeth a hyfforddiant sgiliau uwch i alluogi graddedigion i ddilyn gyrfaoedd yn y sectorau gofal iechyd neu ymchwil a datblygu.
Bioleg a Therapiwteg Canser (MSc)
Diben y cwrs hwn yw rhoi lefel uwch o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i chi ym maes bioleg a therapiwteg canser, sy’n prysur ddatblygu. Byddwn ni’n rhoi hyfforddiant eang a helaeth i chi am ganser gan gryfhau eich gobeithion ynghylch dechrau neu gynyddu gyrfa ym maes gofal iechyd a sefydliadau ymchwil y sector cyhoeddus/preifat.
Darganfyddwch sut brofiad yw astudio Bioleg Canser a Therapeutics ym Mhrifysgol Caerdydd a pha fath o brofiad rydych yn debygol o'i gael pan fyddwch yn ymuno â ni drwy wylio'r ffilm fer hon:
Mae Cyfarwyddwr ein rhaglen, Steve a'r fyfyriwr, Isabel yn rhannu eu profiad o'r rhaglen hon.
P’un a ydych yn ymbaratoi ar gyfer ymchwil ddoethurol neu ennill cymhwyster uwch, bydd y rhaglen hon i ôl-raddedigion yn rhoi cyfuniad cytbwys i chi o theori ac ymarfer yn ôl natur eich anghenion a’ch gyrfa.
Dysgwch fwy am ein MSc mewn Bioleg a Therapiwteg Canser a sut i wneud cais
Rhagnodi’n annibynnol gan fferyllwyr
Wedi'i ddylunio i baratoi fferyllwyr i weithio fel Rhagnodwyr Annibynnol, ac i fodloni’r safonau perthnasol a bennwyd gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC). Oes diddordeb gyda chi? Tudalen cwrs Dysgwch fwy gan gynnwys sut i wneud cais
Fferylliaeth Glinigol
Rydym yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig fferylliaeth glinigol fel cymhwyster allweddol i fferyllwyr ddatblygu eu gyrfaoedd ym mhob sector. Cefnogir y rhaglen gan Gyfarwyddwyr Cyswllt y Cwrs a thiwtoriaid profiadol mewn sefydliadau achrededig.
Rhaglen Hyfforddi Fferyllwyr Sylfaen Ôl-Gofrestru AaGIC (Ar gyfer fferyllwyr sydd newydd eu cofrestru yng Nghymru)
Mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), rydym yn darparu Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen Fferyllwyr Ôl-Gofrestru ar gyfer fferyllwyr sydd newydd eu cofrestru yng Nghymru o fis Medi 2022.
Bydd y rhaglen hon yn cefnogi fferyllwyr sydd newydd eu cofrestru i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau i ymarfer yn hyderus mewn unrhyw sector, ar Lefel Sylfaen Ôl-Gofrestru gyffredinol. Bydd yn rhoi cyfle i feithrin hyder a chymhwysedd o ran ymarfer sydd y tu hwnt i'r hyn sydd ei angen i gofrestru fel fferyllydd, gyda chymorth ymarferwyr profiadol.
Gwneud cais am fenthyciad
Os ydych yn ddarpar fyfyriwr o'r DU, efallai y gallwch wneud cais am fenthyciad ôl-raddedig Llywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau gyda ni.
Full details of our Pharmacy and Pharmaceutical Sciences MSc programmes, including how to apply, are available in course finder.