Ewch i’r prif gynnwys
 Amanda Rackstraw

Amanda Rackstraw

Creative writing tutor

Trosolwg

Fy mhrif ddiddordeb yw ysgrifennu a pherfformio. Rydw i’n ysgrifennu barddoniaeth a gwaith perfformio. Rydw i wedi cynhyrchu gwaith theatr yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, ac roeddwn i’n ail am wobr barddoniaeth John Tripp 2009.

Bywgraffiad

Yn y lle cyntaf, cefais hyfforddiant fel actor yn RADA, ac es i ymlaen i weithio i’r Gymdeithas Shakespeare Frenhinol, amrywiaeth o theatrau rhanbarthol, yn ogystal â’r teledu.

Symudais i Gymru i fagu fy nheulu a chymerais radd anrhydedd mewn Athroniaeth, Hanes a Saesneg.

Gan ddilyn PGCE, addysgais mewn coleg, ac ysgolion uwchradd, tan 2000 pan gwblheais radd Meistr mewn Gwleidyddiaeth Ddiwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe wnaeth gwaith ôl-raddedig mewn theori feirniadol a diwylliannol arwain at ddiddordeb mewn dadansoddi testunau’n agos, ac mewn gweithio gyda myfyrwyr ysgrifennu creadigol i fagu eu sgiliau a gwireddu potensial creadigol.

Rydw i wedi cynnal dosbarthiadau ysgrifennu creadigol llwyddiannus, a bellach rwy’n gweithio fel adroddwr, tiwtor, siaradwr, a hwylusydd mewn cynadleddau a digwyddiadau.

Supervision

Past projects