Trosolwg
Cyfrifoldebau’r rôl
Dr Ceri Morris yw Arweinydd Rhaglen Gymrodoriaeth Prifysgol Caerdydd. Hi sy'n gyfrifol am ddylunio, cyflwyno ac asesu a chefnogi'r Gymrodoriaeth, a darlithwyr gwadd ar weithdai'r Gymrodoriaeth Gyswllt a'r Uwch Gymrodoriaeth. Mae hi hefyd yn rhan o Brosiect Cynhwysiant Prifysgol Caerdydd ar gyfer dysgu ac addysgu.
Gwaith allweddol/arbenigeddau
Mae ei diddordebau ymchwil ac addysgu yn cynnwys addysg ôl-orfodol a datblygu addysg, addysgeg gynhwysol, asesu ac adborth, ac anabledd.
Bywgraffiad
Mae gan Ceri gefndir yn gweithio gyda phobl anabl ac mae'n Swyddog Adsefydlu cymwys ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall. Bu'n gweithio mewn anghenion addysgol arbennig yn y cyfnod gorfodol, ac mae wedi addysgu mewn addysg bellach brif ffrwd ac arbenigol, cyn dychwelyd i'r brifysgol i gwblhau TAR (ôl-orfodol), Gradd Meistr mewn Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol a PhD mewn Addysg Gynhwysol.
Yn gyn-ddarlithydd mewn Addysg a TAR PCET ym Mhrifysgol Caerdydd yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, bu'n arwain y Rhaglen Gymrodoriaeth, gwobrau NTF a CATE, a ffrydiau gwaith cynhwysiant a thiwtoriaid personol ym Met Caerdydd cyn dychwelyd i Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd.
- Thesis PHD 2015: Seeing Sense: The Effectiveness of Inclusive Education for Visually Impaired Students in Further Education http://orca.cf.ac.uk/69396/
- 06/2015 Cynhadledd Flynyddol WISERD, Caerdydd. Evaluating Inclusion in Further Education in Wales: The Example of Visual Impairment. Cyflwyniad.
- 08/2015 Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Gymdeithasegol Ewrop, ESA, Prague. 'The Chef, The Sportsman and The Actor': The Role of Identity Formation in the Further Education of Disabled Students. Cyflwyniad
- 2017 Making Sense of Education: sensory ethnography and visual impairment. Ethnography and Education 12 (1) , tt. 1-16
- 2019 Atkinson et al. Sage Research Methods: Researching with Specific Populations: Visual Impairment https://methods.sagepub.com/foundations/visual-impairment
- Ceri Morris, Emmajane Milton & Ross Goldstone (2019) Case study: suggesting choice: inclusive assessment processes, Higher Education Pedagogies, 4:1, 435-447, DOI: 10.1080/23752696.2019.1669479