Trosolwg
Cyfrifoldebau’r rôl
A minnau’n Rheolwr yr Academi Gymraeg (Academi Iaith Gymraeg Prifysgol Caerdydd) rwy’n gweithio’n agos gyda Deon y Gymraeg a Changen Prifysgol Caerdydd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gyflawni amcanion strategaeth y Gymraeg (Embrace it/Yr Alwad). Mae fy ngwaith yn ddiddorol ac amrywiol, ac rwy’n cydweithio’n rheolaidd â staff a myfyrwyr ar draws y brifysgol i gefnogi ac ysbrydoli dysgu, addysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg, ac i gyflwyno ystod o brosiectau sy’n cyfrannu at greu cymuned ddwyieithog lewyrchus, amrywiol a chynhwysol.
Gwaith allweddol/arbenigedd
- Arweinydd prosiect ar gyfer holiaduron sgiliau a phrofiadau Cymraeg Staff a Myfyrwyr
- Cefnogaeth i ddatblygu a chyflwyno modiwl a phrosiect allgymorth newydd Dinasyddion Caerdydd
- Cydlynu a hyrwyddo digwyddiad dathlu Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer staff
- Rheolwr rhaglen cyfeillio sgiliau Cymraeg ar gyfer staff academaidd
- Arweinydd prosiect ar gyfer Ysgoloriaeth Betty Campbell
- Cefnogaeth ad hoc i staff a rhanddeiliaid sy'n ceisio gwella darpariaeth cyfrwng Cymraeg
Bywgraffiad
Ymunais â Phrifysgol Caerdydd yn 2016, i weithio mewn prosiect datblygu rhyngwladol, “Phoenix Project,” gyda Phrifysgol Namibia a Phrifysgol Zambia. Fe wnes i gydlynu teithiau cyfnewid staff a myfyrwyr rhwng Affrica a Chymru a rheoli rhaglen Erasmus+. Bûm hefyd yn Asiant Creadigol i Gyngor Celfyddydau Cymru, yn goruchwylio prosiectau dysgu creadigol mewn dwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.
Rydw i hefyd wedi bod yn Swyddog Ymgysylltu â Myfyrwyr yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Roeddwn yn y tîm Ehangu Cyfranogiad ar gyfer ‘First Campus’, y prosiect Ymestyn yn Ehangach a ariennir gan CCAUC, lle bûm yn cynnal rhaglen o weithgareddau addysgol ar gyfer oedolion sy’n dysgu, pobl ifanc â phrofiad o ofal, a gofalwyr ifanc. Yn gynharach yn fy ngyrfa bûm yn gweithio yn y celfyddydau mewn iechyd yn Ymddiriedolaeth Iechyd GIG St Barts, ac Elusen Guys' a St Thomas yn Llundain.
Dwi wedi cael gyrfa amrywiol, a rwy’n hoffi meddwl mai’r themâu cyffredin yw cyfiawnder cymdeithasol, creadigrwydd a chydweithio. Roedd symud gartref i Gymru yn 2016 yn eiliad dyngedfennol, wrth i mi brofi ailgysylltu grymus â’r Gymraeg. Rwy’n ffodus i allu cyfuno fy mhrofiad gwaith a fy angerdd dros y Gymraeg yn fy rôl bresennol yn yr Academi Gymraeg.