Llwybrau at radd mewn Cerddoriaeth
Bydd Llwybr i Gerddoriaeth yn cael ei lansio ym mis Medi 2025. Am unrhyw ymholiadau, neu i gofrestru diddordeb, e-bostiwch Pathways@caerdydd.ac.uk
Mae astudio ein Llwybr i Gerddoriaeth yn eich paratoi i wneud cais i symud ymlaen at radd israddedig yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol.
Addysgir modiwlau ar-lein gyda'r nos yn nhymor yr Hydref a'r Gwanwyn a thrwy gyfuniad o dair Ysgol Undydd a thiwtorialau ar-lein yn nhymor yr Haf.
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydyn nhw efallai wedi cael addysg ffurfiol ers sawl blwyddyn.
Sut mae’n gweithio
Yn y Llwybr mae 60 o gredydau. Bwriad y llwybr yw cynnig y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi, a bydd yn gwarantu cyfweliad i chi i astudio gradd gyda'r Ysgol Cerddoriaeth. Gall y Llwybr hwn eich paratoi i wneud cais ar gyfer y graddau canlynol:
- Cerddoriaeth (BMus) W302
- Cerddoriaeth gyda Blwyddyn o Astudio Dramor (BMus) G85D
- Cerddoriaeth (BA) W300
Os hoffech chi gofrestru ar y Llwybr at radd mewn Cerddoriaeth, rhaid i chi fod yn lled gyfarwydd â graddau theori cerddoriaeth 1-2.
Os ydych chi’n dymuno canolbwyntio ar berfformio unigol neu ensemble yn y modiwl Cerddoriaeth Greadigol, argymhellir yn gryf eu bod wedi cyflawni Graddau Ymarferol 5–6 cyn gwneud cais, neu’n dangos gallu i berfformio cerddoriaeth sy’n gymesur â’r lefel hon fel yr amlinellir yn neilliannau dysgu arholiadau cerddoriaeth ymarferol Graddau 5-6.
Modiwlau’r llwybr
- Iaith Gerddorol
- Ymchwilio i Gerddoriaeth: Hanes a Diwylliant
- Cerddoriaeth Greadigol
Hyd
O dan amgylchiadau arferol, gallwch chi ddisgwyl cwblhau'r llwybr cyn pen blwyddyn, ond gallwch chi gymryd rhagor o amser os bydd angen.
Y gost
Gwybodaeth am arian a chyllid.
Manylion cyswllt
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu os hoffech wybod mwy am y llwybr hwn, cysylltwch â: