Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at ddiploma mewn Hylendid Deintyddol, neu radd mewn Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol

Dental Pathway

O ganlyniad i’r galw mawr am leoedd, mae’r holl leoedd ar y Llwybr wedi’u llenwi erbyn hyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, ac nid ydyn ni’n derbyn rhagor o ddatganiadau o ddiddordeb.

Lluniwyd ein Llwybr rhan-amser at radd mewn Hylendid Deintyddol ar gyfer oedolion sydd eisiau dychwelyd i fyd addysg er mwyn gwneud cais i astudio.

Addysgir y modiwlau gyda’r nos ac ar y penwythnos. Byddwch chi’n astudio mewn cyd-destunau sy’n hamddenol ac yn gefnogol.

Ar ôl astudio ar y Llwybr, byddwch yn cael gwneud cais i astudio ar gyfer y diploma mewn Hylendid Deintyddol (B750) neu radd mewn Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol (B752).

Sut mae’n gweithio

Mae’r Llwybr yn cynnwys 60 o gredydau.

Mae angen i ymgeiswyr fod â phum cymhwyster TGAU gyda graddau A i C neu 9 i 4. Rhaid i Saesneg Iaith/Cymraeg fod yn un o’r rhain.

Modiwlau’r Llwybr

Modiwlau craidd

Modiwlau Dewisol

Hyd

O dan amgylchiadau arferol, gallwch chi ddisgwyl cwblhau’r Llwybr cyn pen blwyddyn, ond gallwch chi gymryd rhagor o amser os bydd angen.

Cost

Rhagor am gyllid ac arian.

Cysylltu

Llwybrau at radd