Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at Radd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol

Counselling

Mae'r Llwybr at radd mewn Gwaith Cymdeithasol (MA) yn berffaith ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion ac sydd â diddordeb mewn dychwelyd i fyd addysg.

Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr pwnc sy’n hynod brofiadol. Mae digon o gymorth astudio ar hyd y ffordd, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydyn nhw efallai wedi bod yn rhan o addysg ffurfiol ers peth amser.

Ar ôl astudio ar y llwybr, byddwch chi’n gallu gwneud cais i astudio gradd MA Gwaith Cymdeithasol.

Sut mae’n gweithio

Er mwyn ymrestru ar y llwybr, bydd rhaid ichi gael TGAU, graddau A-C/9-4, mewn mathemateg, a Saesneg neu’r Gymraeg (os aethoch chi i ysgol cyfrwng Cymraeg) Bydd angen gradd arnoch chi hefyd, 2:2 neu uwch (unrhyw bwnc), neu 3 blynedd o brofiad gwaith proffesiynol yn y maes.

Yn y llwybr mae 60 o gredydau. Byddwch chi’n astudio tri modiwl gwerth 20 o gredydau:

Hyd

O dan amgylchiadau arferol, gallwch chi ddisgwyl cwblhau'r llwybr cyn pen blwyddyn, ond gallwch chi gymryd rhagor o amser os bydd angen.

Y gost

Mae gwybodaeth am arian a chyllid yma.

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech ragor o wybodaeth am y llwybr hwn cysylltwch â’r canlynol:

Llwybrau at radd