Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at radd mewn Cyfieithu

Students in an IT room wearing headphones

Caiff ein llwybr at radd mewn cyfieithu ei addysgu gan bobl sy’n meddu ar wybodaeth arbenigol yn y pwnc dan sylw, a’r gallu i gefnogi, ysbrydoli a rhannu’r hyn a ddysgwyd gyda chi.

Sut mae'n gweithio

Mae’r llwybr yn cynnwys 60 o gredydau ac mae’n gyfwerth â 50% o flwyddyn gyntaf gradd. Y nod yw eich paratoi o safbwynt deallusol a rhoi’r sgiliau ieithyddol sydd eu hangen arnoch chi i astudio am radd mewn cyfieithu.

Mae’n rhaid canolbwyntio ar un iaith i fynd ymlaen i astudio anrhydedd sengl.

Mae'r opsiynau modiwl iaith yn cynnwys:

Ffrangeg

Almaeneg

Eidaleg

Sbaeneg

Gall penderfynu ar lefel eich cymhwysedd iaith fod yn anodd, ond rydym wedi datblygu tabl yn nodi lefelau cymhwysedd i helpu. Fel arfer mae'n ofynnol i fyfyrwyr y modiwl hwn ddechrau ar gam E neu uwch.

Os nad oes gennych y lefel y gofynnir amdani yn yr Almaeneg a’r Eidaleg, cewch ymrestru o hyd ar Lwybr at radd mewn Cyfieithu.

Yn achos dechreuwyr Almaeneg ac Eidaleg, bydd gennych yr un dewisiadau o ran modiwlau ag yn achos y Llwybr at Tsieinëeg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg a Siapanaeg. Mae’r wybodaeth am fodiwlau’r Llwybr at Tsieinëeg, Almaeneg, Eidaleg, Siapanaeg a Phortiwgaleg (dechreuwyr).

Hyd

O dan amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl i gwblhau'r llwybr o fewn blwyddyn, ond gallwch gymryd mwy o amser os oes angen.

Y Gost

Mae gwybodaeth am arian a chyllid ESRC ar gael yma.

Manylion cyswllt

chi Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y llwybr hwn, e-bostiwch eckart@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch +44(0)29 2087 5336.

Gallwch chi hefyd gysylltu â: pathways@caerdydd.ac.uk