Llwybr at radd yn y Gwyddorau Cymdeithasol
![Male and female students paying attention to a speaker](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/761955/social-science-students.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Mae'r llwybr at radd yn y gwyddorau cymdeithasol yn berffaith i ddysgwyr sy’n oedolion sy’n edrych am ffordd i mewn i addysg uwch, yn enwedig y rheini nad ydynt wedi astudio ers sawl blwyddyn.
Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr pwnc. Mae digon o gymorth astudio ar hyd y ffordd ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt efallai wedi cael addysg ffurfiol ers sawl blwyddyn.
Sut mae'n gweithio
Mae’r llwybr yn cynnwys 60 o gredydau ac mae’n gyfwerth â 50% o flwyddyn gyntaf eich gradd. Byddwch yn astudio tri modiwl gwerth 20 o gredydau:
- Cyflwyniad i'r Gwyddorau Cymdeithasol (20 o gredydau)
- Polisi Cymdeithasol (20 o gredydau)
- Addysg a Chymdeithas (20 o gredydau)
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y modiwlau (cyrsiau) hyn, gan sicrhau eich bod yn cofrestru ar gyfer y modiwl cyflwyniad i’r gwyddorau cymdeithasol cyn y dyddiad dechrau.
Hyd
O dan amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl i gwblhau'r llwybr o fewn blwyddyn, ond gallwch gymryd mwy o amser os oes angen.
Cost
Gwybodaeth am gyllid ac arian.
Cyswllt
Llwybrau at radd
Rydym ni'n cynnig dysgu hyblyg, tiwtoriaid arbenigol, cyfleusterau helaeth a chyfleoedd i wneud cynnydd.