Llwybr at radd mewn Optometreg
Lluniwyd ein Llwybr rhan-amser at radd mewn Optometreg ar gyfer oedolion sydd eisiau dychwelyd i fyd addysg er mwyn gwneud cais i astudio gradd.
Addysgir y modiwlau gyda’r nos ac ar y penwythnos. Byddwch chi’n astudio mewn cyd-destunau sy’n hamddenol ac yn gefnogol. Ar ôl astudio’r llwybr byddwch chi’n gallu gwneud cais i astudio Optometreg gyda Blwyddyn Ragarweiniol (MOptom) (B514).
Sut mae’n gweithio
Mae'r llwybr yn cynnwys 60 o gredydau. Mae hyn yn cynnwys dau fodiwl craidd gorfodol, sy'n cynnwys 20 o gredydau yr un, ynghyd â modiwlau opsiynol ychwanegol a fydd yn gyfwerth ag 20 o gredydau.
Bydd angen 7 TGAU, graddau A-C/9-4 ar yr ymgeiswyr. Dylai'r rhain gynnwys gwyddoniaeth ddwbl, neu ffiseg a gwyddor arall, mathemateg a Chymraeg neu Saesneg.
Modiwlau’r llwybr
Modiwlau craidd
- Polisi Cyhoeddus ar gyfer Iechyd (20 o gredydau).
- Cyflwyniad i Fioleg Ddynol (20 o gredydau)
Modiwlau dewisol
- Delweddu Meddygol a'r Corff Dynol (10 o gredydau)
- Clefydau ac Anhwylderau'r Ymennydd (10 o gredydau)
- Dulliau Ymchwil (10 o gredydau)
Hyd
O dan amgylchiadau arferol, gallwch chi ddisgwyl cwblhau'r llwybr cyn pen blwyddyn, ond gallwch chi gymryd rhagor o amser os bydd angen.
Cost
Rhagor am gyllid ac arian.
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech wybod mwy am y llwybr hwn cysylltwch â:
Llwybrau at radd
Rydym ni'n cynnig dysgu hyblyg, tiwtoriaid arbenigol, cyfleusterau helaeth a chyfleoedd i wneud cynnydd.