Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at radd mewn Ieithoedd Modern: Tsieinëeg, Almaeneg, Eidaleg, Siapanaeg, Portiwgaleg (dechreuwyr)

Mae ein Llwybr at radd mewn Ieithoedd Modern wedi’i lunio ar gyfer oedolion sy’n dychwelyd i addysg ac sydd â’r potensial i gyfrannu’n uniongyrchol at radd sy’n ddeniadol iawn i gyflogwyr.

Addysgir modiwlau gyda’r nos ac amser cinio, ac maen nhw wedi cael eu llunio i ddiwallu anghenion y byd gwaith, a’ch galluogi chi i ddatblygu sgiliau ieithyddol sy’n werthfawr yn fasnachol. Byddwch chi’n dysgu am ddiwylliannau gwledydd eraill yn ogystal â’r ieithoedd a siaredir yno.

Cardiff University student

Byddwch yn cael eich addysgu gan diwtoriaid arbenigol sydd â phrofiad helaeth o ddatblygu sgiliau iaith mewn oedolion ac sy’n ymroddedig i’ch helpu i lwyddo.

Sut mae’n gweithio

Mae'r llwybr yn cynnwys 60 o gredydau.  Y nod yw rhoi’r sgiliau ieithyddol a’r paratoad deallusol sydd eu hangen arnoch i astudio gyda ni ar gyfer gradd mewn ieithoedd modern a bydd yn gwarantu cyfweliad i chi.

Mae’n rhaid canolbwyntio ar un iaith i fynd ymlaen i astudio anrhydedd sengl. Gallwch ddewis o blith y pum iaith ganlynol:

  • Tsieinëeg
  • Almaeneg
  • Eidaleg
  • Japaneeg
  • Portiwgaleg

Rhaid i chi gymryd o leiaf 20 credyd yn eich iaith o ddewis.

Modiwlau craidd

Tsieinëeg

Almaeneg

Eidaleg

Japaneeg

Portiwgaleg

Modiwlau dewisol

Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth

Hanes a Chrefydd

Ieithoedd Modern

Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth

Hyd

O dan amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl cwblhau'r llwybr o fewn blwyddyn, ond gallwch gymryd rhagor o amser os oes angen.

Y gost

Dysgwch fwy am y cyllid a'r arian sydd ar gael.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y llwybr hwn, ebostiwch eckart@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch +44(0)29 2087 5336.

Gallwch hefyd gysylltu:

Llwybrau at radd