Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at radd mewn Ieithoedd Modern: Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg

Female student in a computer classroom.

Mae ein llwybr at radd mewn ieithoedd modern wedi’i lunio ar gyfer oedolion sy’n dychwelyd i addysg ac sydd â’r potensial i gyfrannu’n uniongyrchol at radd sy’n werthadwy iawn.

Addysgir modiwlau gyda’r nos ac amser cinio, ac maent wedi cael eu rhoi at ei gilydd i ddiwallu anghenion y byd gwaith, a’ch galluogi i ddatblygu sgiliau ieithyddol sy’n werthfawr yn fasnachol. Byddwch yn dysgu am ddiwylliannau gwledydd eraill yn ogystal â’r ieithoedd a siaredir yno.

Byddwch yn cael eich addysgu gan diwtoriaid arbenigol sydd â phrofiad helaeth o ddatblygu sgiliau iaith mewn oedolion ac sy’n ymroddedig i’ch helpu i lwyddo.

Sut mae'n gweithio

Mae’r llwybr yn cynnwys 60 o gredydau ac mae’n gyfwerth â 50% o flwyddyn gyntaf gradd. Y nod yw rhoi’r sgiliau ieithyddol a’r paratoad deallusol sydd eu hangen arnoch i astudio gyda ni ar gyfer gradd mewn ieithoedd modern a bydd yn gwarantu cyfweliad i chi

Os cewch eich derbyn ar radd byddwch wedi cwblhau hanner y credydau sydd eu hangen ar gyfer Blwyddyn 1 eich gradd.

Mae'r llwybr hwn yn gofyn am lefel benodol o gymhwysedd yn eich iaith neu ieithoedd dewisol. Gall penderfynu ar lefel eich cymhwysedd iaith fod yn anodd, ond rydym wedi datblygu tabl yn nodi lefelau cymhwysedd i helpu. Mae’n rhaid i fyfyrwyr ar gyfer y modiwl hwn ddechrau ar gam E neu’n uwch.

Os nad oes gennych chi’r lefel ofynnol yn yr Almaeneg a’r Eidaleg, bydd o hyd yn bosibl i chi gofrestru ar Lwybr at radd mewn Ieithoedd Modern. Os ydych chi’n ddechreuwr yn yr Almaeneg a’r Eidaleg, cewch chi ragor o wybodaeth am y Llwybr i Tsieinëeg, Almaeneg, Portiwgaleg ac Eidaleg (dechreuwyr) yma.

Gallwch ddewis canolbwyntio ar un iaith ac astudio anrhydedd sengl neu astudio dwy iaith fel cydanrhydedd. Mae pedair iaith y gallwch ddewis ohonynt, sef:

  • Ffrangeg
  • Almaeneg
  • Eidaleg
  • Sbaeneg

Anrhydedd sengl

  • Modiwl Un (30 o gredydau) - yn dibynnu ar eich medrusrwydd byddech yn astudio cam E neu F.
  • Modiwl Dau (30 o gredydau) - byddwch yn astudio cam F neu G (neu G a H) yn dibynnu ar ba gam y gwnaethoch ei astudio ym modiwl Un.

Cydanrhydedd

  • Modiwl Un (30 o gredydau) - yn dibynnu ar eich medrusrwydd byddech yn astudio cam F neu G yn eich iaith gryfaf.
  • Modiwl Dau (30 o gredydau) - byddwch yn astudio ar gam E neu’n uwch yn eich iaith ddewisol arall.

Modiwlau’r llwybr

Ffrangeg

Almaeneg

Eidaleg

Sbaeneg

Hyd

O dan amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl i gwblhau'r llwybr o fewn blwyddyn, ond gallwch gymryd mwy o amser os oes angen.

Cost

Gwybodaeth am gyllid ac arian.

Cyswllt

Llwybrau at radd