Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr at radd mewn newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant

Man sitting on the floor of a library reading

Mae’r Llwybr i’r Cyfyngau yn llwybr hyblyg a fforddiadwy at radd yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.

Ydych chi wastad wedi bod yn awyddus i wybod mwy am y cyfryngau? Oes gennych chi ddiddordeb yn effaith y cyfryngau cymdeithasol ar ein preifatrwydd, y ffordd mae straeon newyddion yn dod yn benawdau, neu pam fod ffilmiau am ddiwedd y byd mor boblogaidd?

Mae'r Llwybr at radd yn y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant yn rhoi’r cyfle i chi ofyn cwestiynau fel y rhain, a llawer mwy ar ben hynny.

Bydd yn rhoi sylfaen drylwyr i chi yn y sgiliau y bydd eu hangen arnoch i astudio ar gyfer gradd yn y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r Llwybr yn arwain yn uniongyrchol at y tair gradd israddedig a gynigir yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yng Nghaerdydd, ysgol ag iddi enw da rhyngwladol am ansawdd ei hymchwil.

Sut mae'n gweithio

Mae'r Llwybr at y Cyfryngau'n cynnwys cyfanswm o 60 credyd.

Gallwch ddechrau gyda’r Modiwl Craidd, Cyflwyniad i'r Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant (20 credyd) Yna byddwch naill ai’n astudio 40 credyd o’r modiwlau opsiynol ar y rhaglen Llwybr neu 30 credyd o’r rhaglen Llwybr yn ogystal â 10 credyd arall o ran arall o’r rhaglen Dyniaethau (yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Darlithydd Cydlynol yn y Dyniaethau, Dr Michelle Deininger).

  • Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
  • Mae ein tiwtoriaid yn deall yr heriau y gall myfyrwyr eu hwynebu wrth feddwl am ailafael yn eu taith addysgol.
  • Cynhelir y rhan fwyaf o gyrsiau'r Llwybr gyda'r nos neu ar benwythnosau.
  • Gallwch astudio'r Llwybr yn eich pwysau.
  • Cewch gefnogaeth lawn i ymgeisio am radd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant pan fyddwch yn barod.
  • Os nad ydych yn dymuno ymrwymo i'r Llwybr eto, neu os oes diddordeb gennych mewn modiwlau unigol, mae croeso i chi gofrestru o hyd.

Modiwlau'r llwybr

Modiwl craidd

Modiwlau opsiynol

Mae’r rhain fel arfer yn newid bob blwyddyn academaidd. Mae modiwlau opsiynol 2024/25 yn cynnwys:

Hyd

O dan amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl i gwblhau'r llwybr o fewn blwyddyn, ond gallwch gymryd mwy o amser os oes angen.

Cost

Gwybodaeth am gyllid ac arian.

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y llwybr, cysylltwch â:

Llwybrau at radd