Llwybr at radd mewn gofal iechyd
Mae ein llwybr at radd mewn gofal iechyd wedi cael ei lunio ar gyfer oedolion sy’n dychwelyd i addysg sydd am astudio rhan amser er mwyn gwneud cais i astudio gradd.
Addysgir modiwlau gyda’r nos ac ar benwythnosau. Byddwch yn astudio mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol. Ar ôl astudio’r llwybr byddwch yn gallu gwneud cais i astudio gradd israddedig yn y meysydd pwnc canlynol:
- nyrsio oedolion
- nyrsio iechyd meddwl
- nyrsio pediatrig
- bydwreigiaeth
- therapi galwedigaethol
- radiotherapi ac oncoleg
- radiograffeg ddiagnostig
- ffisiotherapi
Sut mae'n gweithio
Mae'r llwybr yn cynnwys 60 o gredydau. Mae hyn yn cynnwys dau fodiwl craidd gorfodol, sy'n cynnwys 20 o gredydau yr un, a modiwlau opsiynol ychwanegol a fydd yn gyfwerth ag 20 o gredydau.
Rhaid bod ymgeiswyr sydd am gofrestru ar y llwybr hwn wedi ennill pum cymhwyster TGAU, graddau A-C/9-4. Dylai'r rhain gynnwys mathemateg a Chymraeg neu Saesneg.
Ar gyfer y llwybr at radd Radiograffeg a Delweddu Diagnostig, mae’n rhaid i chi fod â phum cymhwyster TGAU â graddau A-C/9-4. Dylai’r rhain gynnwys Gwyddoniaeth Dwyradd (neu Ffiseg a phwnc gwyddoniaeth arall), Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (os aethoch i ysgol cyfrwng Cymraeg).
Ar gyfer y llwybr at radd Radiotherapi ac Oncoleg, mae’n rhaid i chi fod â phum cymhwyster TGAU â graddau A-C/9-4. Dylai'r rhain gynnwys Gwyddoniaeth ddwbl, Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (os aethoch i ysgol cyfrwng Cymraeg).
Mae angen ar ymgeiswyr Ffisiotherapi bydwreigiaeth fod â 5 TGAU, gradd A-C/9-4. Dylai'r rhain gynnwys Mathemateg, Cymraeg/Saesneg a Gwyddoniaeth (Bioleg, Cemeg neu Ffiseg).
Mae angen ar ymgeiswyr bydwreigiaeth fod â 5 TGAU, gradd A-C/9-4. Dylai'r rhain gynnwys Mathemateg, Cymraeg/Saesneg a Gwyddoniaeth (Bioleg, Cemeg neu Ffiseg).
Modiwlau’r llwybr
Modiwlau craidd
- Polisi Cyhoeddus ar gyfer Iechyd (20 o gredydau)
- Cyflwyniad i Fioleg Ddynol (20 o gredydau)
Modiwlau opsiynol
- Cyflwyniad i'r Gwyddorau Cymdeithasol Introduction to Social Science (20 o gredydau)
- Seicoleg Ddatblygiadol (10 o gredydau)
- Seicoleg Gymdeithasol (10 o gredydau)
- Afiechydon ac Anhwylderau'r Ymennydd (10 o gredydau)
- Delweddu Meddygol a'r Corff Dynol (10 o gredydau)
- Dulliau Ymchwil (10 o gredydau)
- Seicoleg Annormal (20 o gredydau)
Hyd
O dan amgylchiadau arferol, gallwch ddisgwyl i gwblhau'r llwybr o fewn blwyddyn, ond gallwch gymryd mwy o amser os oes angen.
Cost
Gwybodaeth am gyllid ac arian.
Cyswllt
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech wybod rhagor am y llwybr hwn, ebostiwch eich ymholiad at Pathways@caerdydd.ac.uk.
Cofiwch ychwanegu enw a’r math o nyrsio sydd o ddiddordeb i chi ym mhennawd pwnc yr ebost (e.e. 'Eich Enw – Nyrsio Iechyd Meddwl')
Yn yr ebost cofiwch nodi rhif ffôn cyswllt a rhoi gwybod i ni a oes gennych y cymwysterau gofynnol (5 TGAU gan gynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg).
Os nad oes gennych y cymwysterau gofynnol, dywedwch wrthym pa gymwysterau sydd gennych.
Bydd aelod o'r Tîm Llwybrau yn ymateb i'ch ebost cyn gynted â phosibl.
Llwybrau at radd
Rydym ni'n cynnig dysgu hyblyg, tiwtoriaid arbenigol, cyfleusterau helaeth a chyfleoedd i wneud cynnydd.