Llwybr at radd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth
Mae astudio ein llwybr ‘Naratifau Mewnol’ yn eich galluogi i symud ymlaen i radd israddedig gydag Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol.
Llwybr Naratifau Mewnol
Addysgir modiwlau gyda’r nos ac (ar gyfer rhan o dymor yr haf) ar benwythnosau, ac nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol arnoch i wneud cais.
Bydd y llwybr Naratifau Mewnol yn cyflwyno pynciau hynod ddiddorol, ac yn sicrhau’r dysgu a’r cymorth y bydd eu hangen arnoch i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a gwneud y gorau o'ch galluoedd. Byddwch yn dysgu am y straeon a ddefnyddiwn i wneud synnwyr o fywyd, y codau a’r patrymau sy’n ein cysylltu â’n gilydd, a’r cwestiynau mawr sydd wedi poeni ein meddylwyr mwyaf ers miloedd o flynyddoedd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt efallai wedi cael addysg ffurfiol ers sawl blwyddyn.
Sut mae’n gweithio
Mae’r llwybr Naratifau Mewnol. Y nod yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch, a bydd yn gwarantu cyfweliad i chi astudio gradd gyda’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth .
Cam un
Byddwch yn astudio un modiwl craidd sy’n werth 10 o gredydau.
Cam dau
Byddwch naill ai yn astudio pum modiwl opsiynol gwerth 10 o gredydau o’r rhaglen llwybr (gall hyn hefyd gynnwys modiwlau craidd eraill), neu bedwar modiwl opsiynol gwerth 10 o gredydau o’r rhaglen llwybr ac un cwrs gwerth 10 o gredydau priodol (ar ôl ymgynghori gyda’r Darlithydd Cydlynol).
Modiwlau’r llwybr
Core modules
- Llenyddiaeth Mewnol (10 credyd)
- Hanfodion Ysgrifennu Creadigol (10 credyd)
- Athroniaeth Fewnol (10 credyd)
- Y tu mewn i Iaith (10 credyd)
Optional modules
These usually change every academic year. 2024/25 optional modules included:
- Realaeth Hudol (10 credyd)
- Llenyddiaeth a Chymdeithas Hynafol (10 credyd)
- Sut i gael pen ffordd yn yr Apocalyps (10 credyd)
- Y Byd Sinema (10 credyd)
- Cyflwyniad i Athroniaeth y Meddwl (10 credyd)
Hyd
Mewn amgylchiadau arferol, mae myfyrwyr yn gorffen y llwybr Naratifau Mewnol o fewn blwyddyn. Gallwch hefyd gymryd hyd at dair blynedd i gwblhau’r llwybr os bydd angen.
Cost
Gwybodaeth am gyllid ac arian.
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech wybod mwy am y llwybr Naratifau Mewnol cysylltwch â:
Llwybrau at radd
Rydym ni'n cynnig dysgu hyblyg, tiwtoriaid arbenigol, cyfleusterau helaeth a chyfleoedd i wneud cynnydd.