Ewch i’r prif gynnwys

Ffuglen Oedolion Ifanc

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Ffuglen oedolion ifanc yw un o'r marchnadoedd mwyaf poblogaidd a chynyddol yn y diwydiant cyhoeddi. Ond beth sy'n gwneud nofel oedolion ifanc da?

Ai tywyllwch dystopaidd The Hunger Games neu bosibiliadau diderfyn nofelau hudolus Harry Potter? Pwy sy’n ysgrifennu ffuglen oedolion ifanc ac ai darllenwyr ifanc yw’r unig bobl sy’n prynu’r llyfrau hyn?

Mae'r cwrs hwn yn edrych ar ddetholiad o genres sy'n rhan o ffuglen oedolion ifanc lwyddiannus yn ogystal â darparu gweithdai ymarferol ar gyfer ysgrifennu i gynulleidfaoedd oedolion ifanc.

Dysgu ac addysgu

Cynhelir cyfarfodydd dwy awr unwaith yr wythnos (20 awr o gyswllt i gyd) a fydd yn cynnwys trafodaethau, ymarferion, darlithoedd ynghylch crefft a gweithdai. Caiff dysgwyr eu hannog i ddarllen y testunau a gyflwynir a chael adborth gan y tiwtor ac aelodau eraill y grŵp.

Bydd darpariaeth ar-lein ar gael drwy Dysgu Canolog gyda dolenni perthnasol i adnoddau a thaflenni dosbarth a chyflwyniadau PowerPoint.

Mae pynciau dangosol yn cynnwys:

  • Sgiliau ysgrifennu creadigol: terminoleg sylfaenol a'r cysyniadau sy'n berthnasol i ffuglen oedolion ifanc.
  • Archwilio tueddiadau, arddulliau a datblygiadau cyfoes ym maes ffuglen oedolion ifanc.
  • Trafod enghreifftiau cyhoeddedig o ffuglen oedolion ifanc.
  • Adolygu, adborth, a myfyrio.
  • Cyhoeddi ffuglen oedolion ifanc

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu trwy bortffolio o ddarnau ffuglen oedolion ifanc (80%) a sylwebaeth feirniadol (20%). Bydd y sylwebaeth feirniadol, ar ffurf dyddiadur myfyriol, yn galluogi myfyrwyr i archwilio eu hymarfer creadigol eu hunain ac edrych ar ddeunydd darllen ehangach yn y ddisgyblaeth.

Deunydd darllen awgrymedig

Darllen hanfodol

Bydd myfyrwyr yn cael amrywiaeth o ddarnau o destunau sylfaenol oedolion ifanc.

Deunydd darllen a argymhellir

  • Aitchison, David. "The Hunger Games, Spartacus, and other family stories: Sentimental revolution in contemporary young-adult fiction." The Lion and the Unicorn 39.3 (2015): 254-274.
  • Belbin, David. "What is Young Adult Fiction?." English in Education 45.2 (2011): 132-145.Yasunari Kawabata, Palm-Of-The-Hand Stories (Macmillan, 2006)
  • Hateley, Erica. "Sink or Swim?: Revising Ophelia in contemporary young adult fiction." Children's Literature Association Quarterly 38.4 (2013): 435-448.
  • Hintz, Carrie, Balaka Basu, and Katherine R. Broad, eds. Contemporary dystopian fiction for young adults: Brave new teenagers. Routledge, 2013.
  • Wilson, Nicole L. "The world will be watching: The panoptic nature of reality television in young adult fiction." The Journal of Popular Culture 49.4 (2016): 917-933.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.