Ysgrifennu'r Domestig
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae'r cwrs hwn yn defnyddio byd y cartref, y teulu a'r gymuned fel ysbrydoliaeth ar gyfer ysgrifennu.
Dros gyfnod o ddeng wythnos, byddwn yn cael cipolwg manwl ar y lleoedd rydyn ni'n byw a'r lleoedd rydyn ni'n eu tyfu; y straeon rydyn ni'n eu hetifeddu a'r straeon rydyn ni'n eu rhannu; ein defodau a'n harferion; hyfrydwch a dymuniadau; manion a cherrig milltir; rhwygiadau ac aduniadau; y cyhoedd a'r preifat.
Mae croeso i chi weithio mewn ffuglen neu hunangofiant, barddoniaeth neu ryddiaith; cynhyrchu saga deuluol neu bortread bychan. Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer awduron o unrhyw lefel o brofiad a byddwch chi'n cael eich addysgu mewn amgylchedd sy'n ddiamod yn gynnes ac yn gefnogol.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.
Dyma’r pynciau a allai fod o dan sylw:
- Ysgrifennu'r cartref
- Y teulu a straen teuluol
- Cymuned
- Defodau ac arferion
- Mannau cyhoeddus a phreifat
- Genre a'r domestig
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Bydd myfyrwyr yn cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eu proses eu hunain. Bydd y portffolio yn cynnwys tua 1500 o eiriau.
Deunydd darllen awgrymedig
Bydd myfyrwyr yn cael awgrymiadau darllen yn ystod y cwrs.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.