Ysgrifennu Ffuglen Wyddonol a Ffantasi Rhan 3: Byd Ffuglen Fyfyrgar
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Gemma Scammell | |
Côd y cwrs | CRW24A5601A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Gan adeiladu ar y cysyniadau allweddol a gafodd eu trafod yn Ysgrifennu Ffuglen Wyddonol a Ffantasi rhan 1 a 2, bydd y cwrs hwn yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o rai o'r awduron ffuglen wyddonol a ffantasi mwyaf dylanwadol hyd yn hyn sy’n ysgrifennu ffuglen fyfyrgar.
Mae’r genre ffuglen fyfyrgar yn nodweddiadol am osgoi realaeth ac yn hytrach yn cynnwys parthau rhyfeddol, dyfodolaidd, goruwchnaturiol neu ddychmygus eraill sy'n cynnig dyfodol posibl.
Byddwch chi’n ystyried yr hyn sy'n gwneud i lyfr berthyn i gategori ffuglen fyfyrgar yn hytrach na ffuglen wyddonol a ffantasi, ac yn trafod pam mae awduron fel Margaret Atwood wedi brwydro i gael cynnwys eu llyfrau yn y genre ffuglen fyfyrgar.
Byddwn ni’n ystyried sut mae awduron yn trin pynciau myfyrgar fel newid hinsawdd, ymosodiadau gan estroniaid, ôl-ddyneiddiaeth, peirianneg enetig, a deallusrwydd artiffisial. Dros y deng wythnos, bydd myfyrwyr yn ysgrifennu eu straeon myfyrgar eu hunain wrth iddyn nhw ystyried pwysigrwydd cymeriad, adroddwr, adeiladu bydoedd, a phlot.
Byddwch chi’n ystyried yr amrywiaeth o ffyrdd y mae ffuglen wyddonol a ffantasi yn trafod syniadau cyfoes am bwy ydyn ni, sut rydyn ni’n ymgysylltu â'n hamgylchedd, a sut rydyn ni’n ymateb i arwahanrwydd. Byddwch chi’n ymdrin â’r cwestiynau hyn drwy’r broses o ysgrifennu’n greadigol.
Dysgu ac addysgu
Bydd y modiwl hwn yn cael ei gynnig ar-lein. Byddwn ni’n cynnal cyfarfod dwy awr unwaith yr wythnos (20 awr o gyswllt i gyd) a fydd yn cynnwys trafodaethau, ymarferion, darlithoedd ynghylch crefft a gweithdai. Caiff dysgwyr eu hannog i ddarllen y testunau a gyflwynir, cwblhau’r ymarferion ysgrifennu wythnosol a chael adborth gan y tiwtor ac aelodau eraill y grŵp. Bydd dolenni perthnasol i adnoddau, taflenni dosbarth, a chyflwyniadau PowerPoint ar Dysgu Canolog a Teams.
Cynnwys y maes llafur:
Byddwch chi’n trin a thrafod y materion a’r themâu allweddol canlynol:
- Y gwahaniaeth rhwng ffuglen wyddonol, ffantasi a ffuglen fyfyrgar
- Sut i osgoi esboniadau diflas a gorlwytho gwybodaeth
- Sut i gyfuno adeiladu bydoedd â chymeriadau a phlot
- Sut i ddatgelu manylion bydoedd yn ddramatig trwy weithredoedd ac ymatebion
- Hunaniaeth, amser, newid, ymwybyddiaeth, y dynol, yr ôl-ddynol, yr estron, hanes gwrth-ffeithiol, rhith-realiti, ac efelychiad
- Byddwn ni’n trafod awduron fel Margaret Atwood, Kazuo Ishiguro, Kim Stanley Robinson ac Aldous Huxley.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, mae’n rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.
Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ni ei dangos gerbron arholwyr allanol er mwyn inni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.
Diben ein dulliau yw ceisio cynyddu eich hyder, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion prysur.
Byddwch chi’n cwblhau darn byr o ysgrifennu dadansoddol lle byddwch chi’n diffinio ffuglen fyfyrgar gan dynnu ar enghreifftiau llenyddol ac o fyd teledu a ffilm (400 gair), a phortffolio o ysgrifennu myfyrgar (1600 o eiriau) sy'n cynnwys y gwaith gorau rydych chi wedi ei gynhyrchu ar y modiwl.
Gall y portffolio hwn gynnwys sawl darn creadigol ar wahân, neu un darn o ysgrifennu estynedig, gyda chaniatâd eich tiwtor ymlaen llaw.
Deunydd darllen awgrymedig
Testunau Llenyddol
- Kazuo Ishiguro, Clara and the Sun (2021)
- Margaret Atwood, Oryx and Crake (2003)
- Liu Cixin, The Three-Body Problem (2006) Book & TV show
- William Gibson, Neuromancer (1984)
- Kim Stanley Robinson, The Ministry for the Future (2020)
- Neal Schusterman & Jarod Schusterman, Dry (2018), Book & film
- Arthur C. Clarke, Childhood’s End (1953)
- Aldous Huxley, Brave New World TV adaptation (2020)
- Humans TV show (2015 – 2018)
- The Age of Stupid (2009) Film
Darllen Cefndir
- Alexis Lothian, Old Futures Speculative Fiction and Queer Possibility (2019)
- Natalie M. Rosinsky, Feminist Futures: Contemporary women’s speculative fiction (1984)
- Sherryle Vint & Sümeyra Buran (eds), Technologies of Feminist Speculative Fiction: Gender, Artificial Life, and the Politics of Reproduction (2022)
- John, L. Hennessey, History and Speculative Fiction (1986)
- Paul Lee Thomas, Science Fiction and Speculative Fiction: Challenging Genres (1961)
- Tomas Vergara, Alterity and Capitalism in Speculative Fiction: Estranging Contemporary History (2023)
- Janet Sayers, Lydia Martin & Emma Bell, Posthuman Affirmative Business Ethics: Reimagining Human-Animal Relations Through Speculative Fiction (2022)
- Donna Haraway, Simians, Cyborgs and Women: the Reinvention of Nature (1991)
- N. Katherine Hayles, How We Became Posthuman: Virtual Bodies in Cybernetics, Literature and Informatics (1999)
- Margaret Atwood, In Other Worlds: SF and the Human Imagination (2011)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.