Ysgrifennu Ffuglen Wyddonol a Ffantasi
Hyd | 10 o gyfarfodydd wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Gemma Scammell | |
Côd y cwrs | CRW24A5452A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Beth sy'n gwneud ffuglen wyddonol lwyddiannus? Sut ydych chi'n adeiladu byd ffantasi?
Mae'r cwrs ysgrifennu ymarferol hwn yn archwilio ystod o fframweithiau a chysyniadau sy'n sail i'r genres poblogaidd hyn, o arwahanrwydd i'r ôl-ddynol, a hefyd yn eich galluogi i osgoi peryglon rhoi esboniadau rhy gynhwysfawr neu ormod o wybodaeth ar yr un pryd.
Trwy archwilio rhai o'r awduron ffuglen wyddonol a ffantasi mwyaf dylanwadol hyd yma, byddwch yn creu eich straeon eich hun wrth ymgysylltu ag elfennau o wyddoniaeth, athroniaeth, gwleidyddiaeth a theori feirniadol.
Byddwch yn archwilio'r amrywiaeth o ffyrdd y mae ffuglen wyddonol a ffantasi yn archwilio syniadau cyfoes am bwy ydym ni, sut rydym yn ymgysylltu â'r gymuned, a sut rydym yn ymateb i arallrwydd.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl wyneb yn wyneb. Bydd deng sesiwn dwy awr ar ffurf darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith mewn grwpiau bach a sesiynau dadlau.
Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.
Dyma’r pynciau a allai fod o dan sylw:
- Y gwahaniaeth rhwng ffuglen wyddonol a ffantasi
- Sut i osgoi esboniadau diflas a rhoi gormod o wybodaeth ar yr un pryd
- Sut i gyfuno adeiladu'r byd â chymeriadau a phlot
- Sut i ddatgelu manylion y byd yn ddramatig trwy weithredoedd ac ymatebion
- Rôl ymddygiad arferol wrth seilio'r rhyfeddol
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Bydd myfyrwyr yn cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eu proses eu hunain. Bydd y portffolio yn cynnwys tua 1500 o eiriau.
Deunydd darllen awgrymedig
Efallai y bydd y testunau cynradd canlynol yn ddefnyddiol i fyfyrwyr eu harchwilio:
- Ray Bradbury The Martian Chronicles (1950)
- Octavia Butler, Bloodchild and Other Stories (2005)
- Susanna Clarke Jonathan Strange and Mr Norrell (2004)
- Philip K. Dick Do Androids Dream of Electric Sheep (1969)
- Neil Gaiman American Gods (2001)
- William Gibson Neuromancer (1984)
- Stephen King The Dark Tower: The Gunslinger (1982)
- Jules Verne Twenty Thousand Leagues Under the Sea (2007 version)
- Andy Weir The Martian (2011)
- H. G Wells The War of the Worlds (1898)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.