Teithiau Ysgrifennu: Archwilio Ymhellach
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Briony Goffin | |
Côd y cwrs | CRW24A5586A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae'r cwrs hwn yn dychwelyd at y syniad o daith. Drwy gyfuniad o lên teithio a chofiant, byddwn ni’n treiddio’n ddwfn i brofiadau o fynd a dod, aildroedio a dychwelyd, mapiau a mordwyo, mynd ar goll a darganfod.
Gallwch chi ei astudio fel cwrs annibynnol neu i ategu Teithiau Ysgrifennu.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp bach.
Maes Llafur
Fel arfer, bydd y maes llafur yn cynnwys amrywiaeth o ymarferion, darllen testunau, trafodaeth dan arweiniad tiwtor, a rhannu gwaith myfyrwyr, a bydd yn ymdrin â ffurfiau megis micro-ffuglen, y stori fer, y nofel a barddoniaeth.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, mae’n rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.
Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ni ei dangos gerbron arholwyr allanol er mwyn inni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.
Lluniwyd ein dulliau i gynyddu eich hyder, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.
Byddwch chi’n cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eich proses eich hun. Bydd y portffolio’n cynnwys tua 1500-2000 o eiriau.
Deunydd darllen awgrymedig
Byddwch chi’n cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr ar ddechrau'r cwrs. Nid oes angen darllen unrhyw beth ymlaen llaw.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.