Ewch i’r prif gynnwys

Teithiau Ysgrifennu

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Drwy gymysgedd o lên teithio a chofiant, byddwn yn archwilio ac yn darlunio'r profiad o adael a chyrraedd, olrhain a dychwelyd, mapiau a llywio, mynd ar goll a chael eich canfod, gwneud darganfyddiadau, chwilio am lwybrau gwahanol, gwneud cymdeithion teithio; goresgyn rhwystrau, a dysgu gwersi.

Bydd y syniad o daith yn un eang - o bererindod flynyddol i gymudo ar ddydd Llun, o wyliau teuluol i ymchwil ysbrydol, o farathonau mawr i grwydro llwybrau lleol, o deithiau saffari i fynd â’r plant i’r ysgol.

Wrth gwrs, ni allwch gael y corfforol heb y seicolegol ac, felly,  byddwn hefyd yn ystyried y daith fel profiad mewnol, cyfrwng ar gyfer newid, modd o dyfu, a dyfais ar gyfer datguddio cymeriad.

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer awduron ag unrhyw lefel o brofiad a byddwch yn cael eich addysgu mewn amgylchedd sydd bob amser yn gynnes ac yn gefnogol.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth, a gwaith grŵp bach.

Maes Llafur

Fel arfer, bydd y maes llafur yn cynnwys amrywiaeth o ymarferion, darllen testunau, trafodaeth dan arweiniad tiwtor, a rhannu gwaith myfyrwyr, a bydd yn ymdrin â ffurfiau megis micro-ffuglen, y stori fer, y nofel a barddoniaeth.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd yn rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.

Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’r dysgu. Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, a gwnawn bob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.

Byddwch yn cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eich proses eich hun. Bydd y portffolio’n cynnwys tua 1500-2000 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch yn cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr ar ddechrau'r cwrs. Nid oes angen darllen ymlaen llaw.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.