Ysgrifennu Ffuglen Hanesyddol
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Hyd | 10 o gyfarfodydd wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Katie Munnik | |
Côd y cwrs | CRW24A5451A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Sut allwn ni gyfleu iaith y gorffennol? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng ffeithiau hanesyddol a ffuglen hanesyddol? Beth mae ysgrifennu am y gorffennol yn ei ddweud am y presennol?
Yn y cwrs hwn, byddwch yn archwilio elfennau allweddol ysgrifennu ffuglen hanesyddol, gan gydbwyso cywirdeb hanesyddol â gofynion llunio ffuglen.
Fe'ch cyflwynir i ystyriaethau allweddol wrth ysgrifennu ffuglen a osodwyd yn y gorffennol diweddar ac anghysbell, gan adeiladu safbwynt byd-eang hanesyddol ar gyfer cymeriadau, y ffordd y mae ffuglen hanesyddol yn cynnig ffordd o wneud sylwadau ar bryderon y presennol, a strategaethau ar gyfer rhoi bywyd i waith ymchwil ar gyfer darllenwyr.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl ar-lein (trwy Zoom) trwy ddeg sesiwn fyw 2 awr, yn seiliedig ar weithdai a fydd yn cynnwys adborth rheolaidd gan gymheiriaid a thiwtoriaid. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.
Mae cynnwys dangosol yn debygol o gynnwys:
- Cyfleu iaith y gorffennol – pa mor gywir ddylen ni fod?
- Ffeithiau hanesyddol yn erbyn ffuglen hanesyddol: gwahaniaethau, cyfleoedd a pheryglon allweddol
- Gwirionedd, dilysrwydd, cywirdeb a chyfrifoldeb i ddarllenwyr
- Creu safbwynt byd-eang hanesyddol: mewnol ac allanol
- Siarad am y presennol trwy ysgrifennu am y gorffennol
- Animeiddio ymchwil gyda dychymyg
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Bydd asesiadau yn eich galluogi i adeiladu portffolio o waith ysgrifennu newydd a chael adborth ar eich gwaith. I'r rhai sydd eisoes â syniad am waith ffuglen hanesyddol hyd nofel, bydd y modiwl yn cynnig strategaethau i chi ar gyfer bwrw ymlaen â'r gwaith hwn.
I'r rhai sy'n dymuno datblygu gwybodaeth ymarferol am ysgrifennu ffuglen hanesyddol ond nad oes ganddynt brosiect penodol mewn golwg eto, bydd y modiwl yn eich helpu i lunio llawer o syniadau
Deunydd darllen awgrymedig
Testunau a argymhellir am ffuglen hanesyddol:
- Jerome de Groot, The Historical Novel: the New Critical Idiom (Routledge, 2009)
- Darlithoedd Reith Hilary Mantel o 2017, ar gael trwy'r BBC fel sain gyda thrawsgrifiadau
Testunau a argymhellir am y grefft o ysgrifennu ffuglen hanesyddol:
- Susanne Alleyn, Medieval Underpants and Other Blunders: A Writer's (and Editor's) Guide to Keeping Historical Fiction Free of Common Anachronisms, Errors, and Myths (CreateSpace, 2015)
- Celia Brayfield and Duncan Sprott, Writing Historical Fiction: an Artist’s and Writer’s Companion (Bloomsbury, 2014)
- Emma Darwin, Get Started in Writing Historical Fiction (John Murray, 2016)
Testunau a argymhellir am y grefft o ysgrifennu ffuglen yn fwy cyffredinol:
- Anderson, Linda, a Neale, Derek, Creative Writing: A Workbook with Readings (Abingdon: Routledge, 2005)
- King, Stephen, On Writing: A Memoir of the Craft (Llundain: Hodder, 2012)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.