Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu ar gyfer Lles

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Darganfyddwch sut y gall ysgrifennu eich helpu chi i ddatblygu strategaethau lles personol a hunanymwybyddiaeth wrth i ni ystyried ym mha ffyrdd y gall ysgrifennu fod yn therapiwtig.

Bydd y cwrs ar-lein hwn, a addysgir gan gwnselydd cymwys ac ymarferydd ysgrifennu creadigol, yn eich galluogi i ymchwilio i’r berthynas rhwng ysgrifennu a lles drwy weithgareddau dysgu dan arweiniad a thasgau ysgrifennu ymarferol.

Er nad yw'r cwrs hwn yn therapiwtig, rydych chi’n dysgu drwy brofiad, a gofynnir i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau hunanymwybyddiaeth.

Mae'n hanfodol eich bod chi’n cofrestru ymlaen llaw. Yna, gofynnir i chi gwblhau a dychwelyd eich gweithgaredd myfyrio cyntaf. Anfonir y manylion llawn atoch ar ôl i chi gofrestru.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno'n anghydamserol (h.y. gallwch chi astudio ar adegau sy'n gyfleus i chi), a bydd deunyddiau ac awgrymiadau ysgrifennu’n cael eu rhannu bob wythnos. Bydd y sesiynau'n cynnwys recordiadau sain/fideo gan diwtor, tasgau ysgrifennu a fforymau trafod. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar Microsoft Teams i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o elfennau’r cwrs sy’n seiliedig ar destun. Nid oes unrhyw alwadau fideo gorfodol.

Disgwylir i chi gwblhau tasgau ysgrifennu a myfyrio yn rhan o'ch dysgu a'ch asesiad. Byddwch chi’n gallu cwblhau’r tasgau ar gyfer y cwrs anghydamseredig hwn ar adegau sy'n gyfleus i chi. Fodd bynnag, bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau bob wythnos.

Cynnwys y maes llafur

Mae’r pynciau’n debygol o gynnwys:

  • Cyflwyniad i Ysgrifennu a Lles
  • Ysgrifennu'n Fyfyriol
  • Ysgrifennu ac Ymwybyddiaeth Ofalgar
  • Ysgrifennu er Hunanfynegiant
  • Ysgrifennu er Hunanofal
  • Ysgrifennu er Hunanymwybyddiaeth
  • Ysgrifennu'n Therapiwtig
  • Ysgrifennu i Iachau
  • Ysgrifennu ac Ail-ysgrifennu Naratifau Bywyd
  • Ysgrifennu i Gofnodi a Hel Atgofion
  • Ysgrifennu ac Ymatblygaeth

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni’n ceisio rhoi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Byddwch chi’n cynhyrchu portffolio Ysgrifennu er Lles a Hunanymwybyddiaeth myfyriol (1,500 – 2,000 o eiriau o hyd).

Fe'ch cyflwynir i'r cysyniad o ymarfer ysgrifennu’n fyfyriol. Bydd eich portffolio’n cynnwys tystiolaeth o ymarferion ysgrifennu wedi'u cwblhau a gweithgareddau myfyrio ysgrifenedig cysylltiedig a fydd yn dangos dealltwriaeth o rai o egwyddorion allweddol ysgrifennu er lles a datblygiad personol.

Bydd y portffolio’n datblygu o'r gwaith a wnaed yn rhan o ymarferion wythnosol. Rhoddir arweiniad i chi ar sut i ymdrin â’r elfen fyfyriol, ond bydd disgwyl i chi wneud hyn yn rhan o'r oriau astudio ychwanegol sy'n gysylltiedig â chwrs ar y lefel hon.

Er bod y modiwl hwn yn rhan o’r gyfres o gyrsiau ysgrifennu creadigol, mae'r pwyslais ar barodrwydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hunanymwybyddiaeth a datblygiad personol.

Ni fydd eich gwaith ysgrifenedig ar gyfer y modiwl hwn yn cael ei raddio yn ôl confensiynau marcio ysgrifennu creadigol, ond yn hytrach y dystiolaeth o ymgysylltu â thasgau.

Deunydd darllen awgrymedig

Nid oes disgwyl i chi ddarllen cyn y cwrs. Bydd y tiwtor yn cyflwyno awgrymiadau darllen ar ddechrau'r cwrs.

Os oes gennych ymholiadau ychwanegol, cyfeiriwch nhw at Dr Michelle Deininger, darlithydd cydlynol yn y Dyniaethau DeiningerMJ@caerdydd.ac.uk

Os nad ydych yn siŵr a yw'r cwrs hwn yn addas i chi, gallwch ofyn am gael gwylio fideo’r gweithgaredd i’w wneud cyn y cwrs cyn cofrestru.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.