Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu er Budd ein Lles: Ysgol Haf Ddwys

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn yn archwilio ffyrdd y gellir defnyddio ysgrifennu fel pecyn cymorth ar gyfer datblygu strategaethau lles, mewn cyd-destunau personol a phroffesiynol.

Dros bum diwrnod o astudio, bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i ddamcaniaethau sylfaenol ynghylch pam a sut y gall ysgrifennu fod yn ddefnyddiol ar gyfer lles.

Mae'r cwrs yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ystod eang o ymarferion sydd â'r nod o hyrwyddo hunanymwybyddiaeth a meithrin ymdeimlad o les, mewn sesiynau byw a sesiynau ar-lein anghydamserol.

Mae'r cwrs yn addas i bawb sydd â diddordeb yn y pwnc, waeth beth yw eu profiad ysgrifennu blaenorol, ond gall hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer cyd-destunau proffesiynol (megis cwnsela a gofal iechyd). Rhoddir pwyslais ar ymgysylltu ac annog mewn amgylchedd grŵp cefnogol.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl ar-lein drwy bum sesiwn undydd ar-lein, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp bach. Bydd cymysgedd o gyfarfodydd byw a gweithgareddau anghydamserol.

Bydd manylion am y platfform cyflwyno yn cael eu cadarnhau yn nes at y dyddiad dechrau.

Maes Llafur

Mae’r pynciau’n debygol o gynnwys:

Bydd y pynciau'n amrywiol iawn ac yn debygol o gynnwys:

  • Cyflwyniad i Ysgrifennu er budd Lles
  • Ysgrifennu'n fyfyriol
  • Ysgrifennu ac ymwybyddiaeth ofalgar
  • Ysgrifennu er hunanfynegiant
  • Ysgrifennu er hunanofal
  • Ysgrifennu er hunanymwybyddiaeth
  • Ysgrifennu'n therapiwtig
  • Ysgrifennu i iachau
  • Ysgrifennu ac ail-ysgrifennu naratifau bywyd
  • Ysgrifennu i gofnodi a hel atgofion
  • Ysgrifennu ac ymatblygaeth

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd rhaid i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.

Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysg. Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, a gwnawn bob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.

Byddwch yn creu portffolio ysgrifenedig a gwaith mynegiannol a myfyriol a fydd yn dangos dealltwriaeth o rai o egwyddorion allweddol ysgrifennu ar gyfer lles a datblygiad personol.

Datblygir y portffolio (tua (2000 o eiriau) o'r gwaith a gynhyrchir yn ystod ymarferion yn y dosbarth er bod rhywfaint o ddisgwyliad y bydd dysgwyr yn ymgysylltu â myfyrio ysgrifenedig pellach yn eu hamser eu hunain.

Ni chaiff gwaith ysgrifenedig ar gyfer y modiwl hwn ei raddio yn ôl confensiynau marcio ysgrifennu creadigol, ond yn hytrach trwy dystiolaeth o ymgysylltu â thasgau.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Kathleen Adams (ed), with a foreword by James W. Pennebaker, Expressive writing foundations of practice, Lanham: Rowman & Littlefield
  • Gillie Bolton, Stories at work: reflective writing for practitioners, London: Elsevier Ltd
  • - 'Every Poem Breaks a Silence That Had to Be Overcome': The Therapeutic Power of Poetry Writing, London: Taylor & Francis Group
  • Gillie Bolton, Victoria Field and Kate Thompson (eds), with a foreword by Gwyneth Lewis, Writing routes a resource handbook of therapeutic writing, London: Jessica Kingsley Publishers
  • Ashley Chambers, Opening up by writing it down, third edition: How expressive writing improves health and eases emotional pain Abingdon: Routledge
  • Pauline Cooper, Using Writing as Therapy: Finding Identity, London: SAGE Publications
  • Scott Barry Kaufman, James C. Kaufman (eds) The psychology of creative writing Cambridge: Cambridge University Press
  • Stephen J. Lepore, Joshua M. Smyth (eds) The writing cure: how expressive writing promotes health and emotional well-being, Washington, D.C.: American Psychological Association
  • Nicholas Mazza, Poetry therapy: theory and practice, New York: Routledge
  • James W. Pennebaker. Opening up: the healing power of expressing emotions, New York: Guildford Press
  • Telling Stories: The Health Benefits of Narrative. BALTIMORE: Johns Hopkins University Press
  • Expressive Writing in Psychological Science  Los Angeles, CA: SAGE Publications
  • (ed) Emotion, disclosure, & health. Washington, DC: American Psychological Association
  • Merlyn Sargunaraj, Himani Kashyap, and Prabha S Chandra (eds), Writing Your Way Through Feelings: Therapeutic Writing for Emotion Regulation, New Delhi: Springer India

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.