Ysgrifennu Caerdydd: Ysbrydoliaeth a'r Ddinas
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Hari Berrow | |
Côd y cwrs | CRW24A4081A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Oes gennych chi ddiddordeb yn y berthynas rhwng ysgrifennu a lle?
Hoffech chi archwilio sut mae sôn am le wrth ysgrifennu’n llywio ein hymdeimlad ein hun o hanes, perthyn a hunaniaeth?
Dyma gwrs ysgrifennu creadigol ymarferol sy’n cael ei addysgu gan arbenigwr ym maes Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg.
Mae’n cael ei addysgu’n rhannol yn y dosbarth ac yn rhannol drwy ymweld â gwahanol safleoedd yng Nghaerdydd, gan gynnwys Parc Bute, Bae Caerdydd a’r amgueddfa. Byddwch yn ystyried rôl y tirlun dinesig, celf, hunaniaeth genedlaethol a natur yn y gwaith o ysgogi ysgrifennu creadigol, wrth archwilio rôl llenyddiaeth yn y gwaith o lywio hanes y ddinas.
Dysgu ac addysgu
Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno mewn deg sesiwn 2-awr. Bydd y sesiynau hyn ar ffurf darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith mewn grwpiau bach a sesiynau dadlau yn yr ystafell ddosbarth ac mewn mannau gwahanol yn y ddinas. Bydd adnoddau sy’n ategu’r sesiynau ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.
Bydd y maes llafur yn cynnwys
- ymarferion ysgrifennu creadigol heriol
- testunau i’w darllen a’u dadansoddi
- trafodaethau dan arweiniad tiwtor
- cyfleoedd i fyfyrwyr rannu eu gwaith
Bydd rhestr lawn o’r safleoedd i ymweld â nhw’n cael ei hychwanegu at y wefan yng ngwanwyn.
Gwaith cwrs ac asesu
Bydd gofyn i chi baratoi portffolio ysgrifennu creadigol sy’n cynnwys tua 1,500 o eiriau ar sail eich diddordebau.
Bydd cyngor a chymorth yn cael eu rhoi ar gyfer yr aseiniadau, a byddwch yn cael adborth manwl sy’n tynnu sylw at eich cryfderau a phethau i’w gwella yn eich gwaith.
Deunydd darllen awgrymedig
Bydd y tiwtor yn rhannu rhestr gynhwysfawr o ddeunyddiau darllen cyn i'r cwrs ddechrau.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.