Ewch i’r prif gynnwys

Menywod mewn Mythau: Hynafol, Canoloesol a Modern

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Hyd 9 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Dr Juliette Wood
Côd y cwrs FOL23A5522A
Ffi £249
Ffi ratach £199 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Adeilad John Percival
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Byth ers i Efa fwyta'r afal, mae'r portread o fenywod mewn mytholeg orllewinol wedi adlewyrchu syniadau ynghylch eu rolau a disgwyliadau ynghylch hyn, o ran y gymdeithas.

Mae rolau benywaidd dychmygol a briodolir i dduwiesau, ffigurau chwedlonol a seintiau benywaidd go iawn neu ddychmygol yn aml yn eu cysylltu â'r sffêr ddomestig neu'n eu darlunio’n ymgorfforiadau o ffrwythlondeb, hynny o ran y ddynoliaeth ac amaeth.

Mae rolau eraill, mwy amwys, a neilltuir i'r ffigurau hyn yn eu cysylltu ag anghytgord, afiechyd, hud maleisus, a rhyfel.

Ar y llaw arall, gallant hefyd ymgorffori creadigrwydd a'r celfyddydau, nyddu, gwehyddu a hyd yn oed adeiladu dinasoedd. Mae chwedloni menywod a'u rôl mewn cymdeithas, wedi cynnwys ffigurau hanesyddol a lled-hanesyddol hynod ddiddorol fel ymerodresau enwog, y Boudicca Celtaidd, Mulan a'r môr-leidr Gwyddelig Grace O'Malley.

O'r duwiesau clasurol a'u dylanwad ar gelf a llenyddiaeth y Gorllewin i dduwiesau pwerus yn niwylliant Affrica, Awstralasia a’r diwylliant Dwyreiniol i'r mudiad duwiesau ffeministaidd modern a'r adfywiad neo-baganaidd, bydd y cwrs hwn yn ein tywys drwy lenyddiaeth, llên gwerin, archaeoleg, a chelf i ddeall rolau amrywiol a deinamig menywod mewn mythau.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu dros naw sesiwn dwy awr o hyd, ac yn cynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai.

Bydd y sesiynau hyn yn digwydd ar ffurf darlith awr o hyd gyda thrafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl yn dilyn hynny, bob tro.

Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.

Maes Llafur:

  1. Duwiesau Clasurol ac Arwresau Epig: Duwiesau yr Hen Fyd
  2. Menywod yn y Byd Arthuraidd
  3. Merched y Tylwyth Teg: Arwresau a gafodd eu herlid, Meistresau’r Tylwyth Teg, a Dyweddi Anghofiedig
  4. Archdeip y Wrach a'r Dduwies Neo-Baganaidd
  5. Erydu Rhywedd trwy ffigyrau Menywod sy’n Filwyr
  6. Seintiau Benywaidd – Modelau Rôl a Gwrthryfelwyr
  7. Duwiesau yn America: Asteciaid, Maias, a La Llorona
  8. Prif Dduwiesau a'r Oes Newydd
  9. Duwiesau Ynysoedd y De: Pele a'i Chyfoedion

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • adolygiad beirniadol byr
  • traethawd 1000 gair.

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Sandra Billington and Miranda Green (eds), The Concept of the Goddess (Hoboken, NJ: Taylor and Francis; 2002).
  • Patrick J Geary, Women at the Beginning: Origin Myths from the Amazons to the Virgin Mary (Princeton, NJ: Princeton University Press; 2006).
  • Sherrie A. Inness, Tough Girls: Women Warriors and Wonder Women in Popular Culture (Philadelphia, Penn : University of Pennsylvania Press; 1998).
  • Mary R. Lefkowitz, Women in Greek Myth, 2nd edition (London: Duckworth, 2007).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.