Ewch i’r prif gynnwys

Garddwyr Benywaidd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Ail-archwilio garddwyr benywaidd a greodd ystadau mawrion, parciau cyhoeddus, tirweddau trefol a noddfeydd preifat o'r 17eg ganrif hyd at yr oes fodern.

Trwy edrych y tu hwnt i’r gerddi mwy adnabyddus a gynlluniwyd gan Jekyll a Lindsay, bydd y cwrs hwn yn ystyried y nifer o erddi cain a grëwyd gan fenywod, sydd am ba bynnag reswm, yn llai adnabyddus y dyddiau hyn.

Cwrs newydd sbon sy’n archwilio'r menywod niferus a oedd yn creu ystadau mawreddog, parciau cyhoeddus a thirweddau trefol yn yr oes fodern ac mor bell yn ôl â'r 17eg Ganrif.

Mae'r cwrs hwn yn mynd y tu hwnt i'r gerddi adnabyddus gan Jekyll a Lindsay. Byddwn yn trafod menywod nad ydynt yn hysbys heddiw, ond sydd eto i gyd wedi creu llawer o dai ac ystadau cain. Mae eu dylanwad ar arddull ein gerddi, sydd yn aml heb gael ei gydnabod, wedi goroesi hyd heddiw.

O Flora, duwies Rufeinig y planhigion, i arddwyr heddiw yn Kew, mae menywod bob amser wedi garddio. Mae’r cwrs hwn yn cydnabod cyfraniadau menywod i faes garddio ym Mhrydain a ledled y byd – sy’n rhychwantu dros bedair canrif.

Er eu bod wedi bod yn tyfu llysiau ar gyfer eu ceginau, trin perlysiau ar gyfer eu cypyrddau meddyginiaeth, ac addysgu menywod eraill am y grefft, cyn i ysgolion amaethyddol fodoli'n swyddogol, troednodiadau yn unig mewn blwyddnodion garddwriaethol ar gyfer sbesimenau a gasglwyd dramor fu menywod.

Mae menywod, i raddau helaeth, wedi bod yn gysylltiedig â mathau byrhoedlog o blannu, yn hytrach na sylwedd y strwythur. Mae dylanwad yr arloeswyr hyn ar arddull gerddi heddiw yn sylfaenol o ran creu gerddi a’n trafodaeth a’n hastudiaeth o hanes gerddi.

Mae dylunwyr gerddi benywaidd cyfoes, a’u presenoldeb hynod ddylanwadol i’w gweld ymhlith arddangosfeydd a sioeau gerddi mawr, fel Sioe Flodau Chelsea a Hampton Court.

Trwy Ewrop, caiff arloesedd drwy Wyliau Gerddi Rhyngwladol Chaumont, Jardins Jardin ym Mharis, Landesgartenschau yn yr Almaen a datblygiad parciau a mannau trefol Americanaidd hefyd ei ystyried.

Dysgu ac addysgu

Bydd darlithoedd, astudiaethau achos a thrafodaethau grŵp.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Stephen Anderton Lives of the Great Gardeners (  Thames and Hudson Ltd – Oct 2016)
  • Sue Bennett; Five Centuries of Women and Gardens: 1590s-1990s ( National Portrait Gallery Publications– Oct 2000 )
  • Jinny Blom; The Thoughtful Gardener: An Intelligent Approach to Garden Design ( Jacqui Small LLP – Mar 2017)
  • Ursula Buchan; Garden People: Valerie Finnis & The Golden Age of Gardening ( Thames and Hudson Ltd; 1st edition (7 May 2007)
  • Ambra Edwards; Head Gardeners ( Pimpernel Press Ltd - 21 Sept. 2017)
  • Kate Felus ; The Secret Life of the Georgian Garden: Beautiful Objects and Agreeable Retreats ( I.B.Tauris – 30 Apr 2016 )
  • Catherine Horwood; Gardening Women: Their Stories From 1600 to the Present Hardcover ( Virago May 2010 )
  • Deborah Kellaway; The Virago Book Of Women Gardeners ( Virago;– 1 Sep 2016)
  • George Plumptre; The English Country House Garden: Traditional Retreats to Contemporary Masterpieces ( Frances Lincoln (4 Sept. 2014)
  • Victoria Summerley; Secret Gardeners: Britain's Creatives Reveal Their Private Sanctuaries ( Frances Lincoln (5 Oct. 2017)
  • Twigs Way; Virgins Weeders and Queens: A History of Women in the Garden ( The History Press – 15 Dec 2006).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.