Dewiniaid a Gwrachod: Myrddin a Morgan
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae hud yn gymaint o ran o'r byd Arthuraidd â Marchogion y Ford Gron, a'r ddau gonsuriwr enwocaf yw Myrddin a Morgan le Fay.
Mae Myrddin a Morgan ymhlith cymeriadau mwyaf poblogaidd y gylchred Arthuraidd, ond maen nhw hefyd yn dipyn o baradocs. Disgrifir Myrddin yn ddewin pwerus, bardd chwedlonol a siaman a drechwyd yn y pen draw gan ei hud ei hun. Mae Morgan le Fay, ynghyd â swynwyr benywaidd eraill fel Vivien, Nimue, Ganieda a Morwyn y Llyn, yn ffigurau amwys llawn pŵer a all fod yn dwyllodrus ac yn gymwynasgar.
Fel gyda chymaint sy'n gysylltiedig â'r chwedl Arthuraidd, er mwyn deall hud a'r cymeriadau sy'n ei hymarfer, rhaid edrych y tu ôl i'r chwedlau a'r traddodiadau.
Mae Myrddin a Morgan wedi cael eu hystyried yn ffuglen ganoloesol gain ac yn dduwiau Celtaidd sydd wedi goroesi, ac mae’r safbwyntiau gwahanol hyn wedi dylanwadu ar eu hymddangosiadau mewn ffuglen, ffilm, a diwylliant poblogaidd diweddarach.
Mae'r ymarferwyr amlochrog hyn o hud bellach yn byw ym mydoedd neo-ganoloesol yr Arglwydd Tennyson a T.H. White, llenyddiaeth ffantasi fodern, gemau cyfrifiadurol a cosplay.
Sut oedd Myrddin a Morgan mewn gwirionedd? Byddwn yn teithio drwy lenyddiaeth, llên werin, archaeoleg a chelf.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl trwy ddeg sesiwn 2 awr o hyd.
Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd ac yna trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.
Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.
Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.
Maes Llafur:
- Byd Hud a Rhamantus yr Oesoedd Canol
- Genedigaeth Myrddin a Dyfodiad Morgan
- Shamaniaid a Duwiesau - Gwreiddiau hud Arthuraidd
- Morgan a'r Swynwragedd yn y llys Arthuraidd.
- Cariad a Cholled: Myrddin a Viviane
- Dewiniaid a Swynwyr: y Dadeni a Thu Hwnt
- Cyfarfod Myrddin a Morgan yng nghasgliadau Arbennig Caerdydd
- Dewiniaid Arthuraidd yn llenyddiaeth Cymru: Myrddin a Ganieda
- Sifalri ac Arglwyddes y Llyn
- Myrddin a Morgan mewn Ffuglen, Ffantasi, a Chelf
Gwaith cwrs ac asesu
Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:
- adolygiad beirniadol byr
- traethawd 1000 gair.
Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.
Deunydd darllen awgrymedig
- Sieffre o Fynwy, The History of the Kings of Britain, cyfieithiad gan Lewis Thorpe (Hardmondsworth: Penguin, 1966).
- Sieffre o Fynwy, Life of Merlin, cyfieithiad gan Basil Clarke (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973).
- John Bollard, 'The earliest Myrddin poems’, yn Arthur in the Celtic Languages: The Arthurian Legend in Celtic Literatures and Traditions, golygwyd gan Ceridwen Lloyd-Morgan ac Erich Poppe (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2019).
- Thelma S. Fenster, Arthurian Women (Efrog Newydd: Routledge, 2009).
- A.O.H. Jarman, 'The Merlin legends and the Welsh tradition of prophecy’, yn The Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature, gol. Rachel Bromwich, A. O. H. Jarman, a Brynley Roberts (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).
- Carolynne Larrington, King Arthur’s Enchantresses: Morgan and her sisters in Arthurian Tradition (Llundain ac Efrog Newydd: I.B. Tauris, 2006).
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.