Hanes pwy? Treftadaeth, Amgueddfeydd a'r Gorffennol Byd-eang Heddiw
Tiwtor | Tutor to be confirmed |
---|---|
Côd y cwrs | HIS24A5570A |
Ffi | £196 |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) |
Location | Adeilad John Percival |
Beth yw treftadaeth?
Sut mae hanes ac archaeoleg y gorffennol yn cael eu cyflwyno? Sut mae hyn wedi newid dros amser? Pwy sy'n penderfynu sut mae'r gorffennol yn cael ei gyflwyno, a pham maen nhw'n penderfynu ei gyflwyno mewn amrywiaeth o ffyrdd?
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y ffurfiau y gall treftadaeth eu cymryd ac yn ystyried ein cyfrifoldeb ar y cyd am fersiynau o'r gorffennol sy'n ein hamgylchynu.
Wrth archwilio'r themâu hyn, a lle'r gorffennol mewn diwylliant modern, byddwn yn ystyried cyflwyno gwrthrychau a safleoedd hanesyddol, a rôl treftadaeth wrth ddatblygu dealltwriaeth a hunaniaeth mewn cymunedau lleol, cymdeithas ehangach ac ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Byddwn yn ystyried treftadaeth pethau ond hefyd y dreftadaeth na allwn gyffwrdd â hi, sy'n cymryd ffurf anniriaethol, ac yn trafod arwyddocâd modern treftadaeth, yn arbennig mynd i'r afael â dadleuon am ddad-drefedigaethu’r gorffennol byd-eang a chyflwyno treftadaeth yn yr oes ddigidol.
Wrth archwilio'r pynciau hyn, cewch gyfle i lunio'ch 'amgueddfa ddigidol' eich hun, gan ystyried y ffordd orau o gyflwyno'r gorffennol trwy hanes ac archaeoleg pwnc sy'n arwyddocaol i chi.
Dysgu ac addysgu
Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu dros naw sesiwn dwy awr o hyd, ac yn cynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai.
Bydd y sesiynau hyn yn digwydd ar ffurf darlith awr o hyd gyda thrafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl yn dilyn hynny, bob tro.
Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac i gyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.
Maes Llafur:
- Cyflwyniad: Beth yw Treftadaeth?
- Dod o hyd i Dreftadaeth: Amgueddfeydd ac Amgueddfeydd
- Lleoedd Treftadaeth: Adfeilion, Safleoedd ac Adeiladau Archeolegol
- Treftadaeth Leol a Chymunedol
- Treftadaeth, Hunaniaeth ac Adeiladu Cenedl
- Treftadaeth y Byd
- Treftadaeth Anniriaethol
- Dad-drefedigaethu: Treftadaeth a’r Gorffennol Byd-eang
- Treftadaeth yn yr Oes Ddigidol
- Ein Treftadaeth: Gweithdy Prosiect Amgueddfa Ddigidol
Gwaith cwrs ac asesu
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys dau ddarn byr o waith asesedig a ddylai, gyda’i gilydd, ddod i oddeutu 1,500 o eiriau. Mae'r darnau hyn o waith wedi cael eu cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r dulliau y mae arnoch eu hangen i astudio’r gorffennol yn llwyddiannus.
Bydd y cyntaf o'r rhain yn fywgraffiad gwrthrychau.
Bydd yr ail yn brosiect 'amgueddfa ddigidol', traethawd darluniadol yn cyflwyno arddangosfa fer, sy'n cyflwyno stori agwedd ar gymdeithas yn y gorffennol.
Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.
Deunydd darllen awgrymedig
- Albert, M.T. et al (eds.) 2013 Understanding Heritage; perspectives in heritage studies, Berlin: De Gruyter.
- Meskell, L. (ed) 2015 Global Heritage: A Reader, Malden; London: Blackwell.
- Smith, L. 2006 The Uses of Heritage, Abingdon; Routledge.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.