Pwy oedd y Barbariaid?
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae’r Gothiaid, y Fandaliaid a’r Hyniaid yn cael eu cofio fel gelynion Rhufain, gan chwarae rôl allweddol yn niryudo’.wiad yr Ymerodraeth Rufeinig a’r hyn a adwaenir fel yr ‘oes ymf
Ond pwy oedd y bobl hyn a oedd mor allweddol i ffurfio’r byd canoloesol cynnar, a pham oedden nhw’n teithio o hyd? Beth ydym ni’n ei wybod am grefydd, cymdeithas a diwylliant y bobl hyn, yn enwedig o ystyried bod y rhan fwyaf o’r deunydd sy’n ymwneud â nhw wedi cael ei ysgrifennu gan eu gwrthwynebwyr? A oedd y bobl hyn mor estron yn y bôn ag y dymunai rhai awduron Rhufeinig ei honni?
Mae’r cwrs hwn yn mynd i’r afael â’r materion hyn trwy archwilio perthynas y barbariaid â’r Rhufeiniaid ac â’i gilydd, o’r 3edd i’r 7fed ganrif OC, pan ddaeth nifer o deyrnasoedd barbaraidd i fodolaeth ond a gafodd drafferth para’n hir. Mae pynciau megis ethnigrwydd, cymathu diwylliannol ac uchelgais rhyfeddol arweinwyr mawr yn ganolog i’r cyfnod allweddol hwn yn hanes Ewrop, y byddwn yn eu harchwilio gan ddefnyddio tystiolaeth destunol ac archaeolegol.
Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n gweithredu fel rhan o'r llwybr Archwilio’r Gorffennol, a bydd yn eich arfogi â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.
Dysgu ac addysgu
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys tri diwrnod ysgol, y mae pob un ohonynt yn cynnwys tair uned thematig. Bydd pob ysgol ddydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau a dadleuon dosbarth, gwaith pâr a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd. Bydd cyfleoedd hefyd i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'u hwyluso gan Rith-Amgylchedd Dysgu’r brifysgol, sef Dysgu Canolog.
Gwaith cwrs ac asesu
Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau dau ddarn o waith asesedig: dadansoddiad ffynhonnell neu adolygiad erthygl 500 o eiriau a thraethawd 1000 o eiriau. Byddwch yn cael cyngor a chefnogaeth ar gyfer y ddau aseiniad ac adborth manwl am gryfderau a meysydd i'w gwella ar y ddau ddarn o waith.
Deunydd darllen awgrymedig
- Dunn, Marilyn, Belief and Religion in Barbarian Europe c. 350-700. Llundain: Bloomsbury Academic, 2013.
- Goffart, Walter, Barbarian Tides: the migration age and the later Roman Empire. Philadelphia, PA: Gwasg Prifysgol Pennsylvania, 2006.
- Halsall, Guy, Barbarian Migrations and the Roman West, 376-568. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2007.
- Heather, Peter, The Goths. Rhydychen: Blackwell Publishing, 1996.
- Merrills, A. H. a Richard Miles, The Vandals. Malden, MA: Wiley-Blackwell; 2010.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.