Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu Gwefannau drwy ddefnyddio HTML a CSS

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn yn addysgu myfyrwyr sut i adeiladu gwefan gan ddefnyddio technegau ac egwyddorion modern gyda HTML (Hyper Text Markup Language), CSS (Cascading Style Sheets) a jQuery (Javascript).

Mae'n gwrs codio HTML a CSS, a bydd yr holl waith dosbarth a gwaith cwrs yn cael ei godio â llaw heb ddefnyddio unrhyw swyddogaethau llusgo/gollwng nac offer fel DreamWeaver neu WordPress. Bydd elfennau codio sylfaenol JQuery yn cael eu trafod gan y bydd cydrannau jQuery sydd wedi’u hadeiladu o flaen llaw, fel llithryddion, ‘accordions’, cwymplenni a sioeau sleidiau, yn cael eu defnyddio.

Ymhlith cynnwys y cwrs y mae ychwanegu penynnau, testun, dolenni, delweddau, tablau, rhestrau, dewislenni, mapiau Google, fideos YouTube, ffurflenni ac elfennau a chydrannau eraill ar dudalennau gwe. Mae hefyd yn cynnwys cyflwyniad i ddylunio gwefannau ymatebol ac i egwyddorion SEO (optimeiddio peiriannau chwilio).  Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am HTML, CSS neu jQuery.

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau dysgu HTML a CSS i'w galluogi i ddylunio a chreu eu gwefannau eu hunain, neu'r rhai sy’n dymuno datblygu eu sgiliau rheoli gwefan sylfaenol. Oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am HTML a CSS, ond dylai myfyrwyr fod yn gyfarwydd â Windows a meddu ar brofiad o bori’r rhyngrwyd.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o esbonio ac arddangos dan arweiniad tiwtor a sesiynau ymarferol. Mae pob cyfarfod yn agor gydag arddangosiad byr; mae prif gyfran y sesiwn yn cynnwys gwaith ymarferol dan arweiniad tiwtor. Cefnogir y sesiynau dosbarth gan wefan amlgyfrwng o fewn y rhith-amgylchedd dysgu Blackboard.

Mae'r maes llafur yn cynnwys:

  • beth yw HTML a chreu tudalen we
  • ychwanegu dolenni a lluniau
  • cyfeirnodi ffeiliau a chyhoeddi i weinydd y we
  • creu a chynnwys ‘cascading style sheets’ (CSS)
  • defnyddio tablau ar gyfer dyluniad a chynllun y dudalen
  • hanfodion dylunio gwefan a hygyrchedd
  • creu ffurflenni ar y we
  • ychwanegu Google maps
  • CSS pellach
  • optimeiddio peiriannau chwilio a dilysu tudalennau gwe

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Bydd y gwaith a asesir yn cynnwys aseiniadau a chreu gwefan.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu, sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

  • World Wide Web Consortium (W3C)
  • W3 Schools
  • Castro, Elizabeth, HTML, XHTML a CSS: Visual QuickStart Guide: With XHTML and CSS (Visual QuickStart Guides), chweched argraffiad (Berkeley, CA: Peachpit, 2006)
  • Meyer, Eric A, CSS: The Definitive Guide, trydydd argraffiad (Sebastopol, CA: O’Reilly, 2007)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.