Celf a Chymdeithas Fictoraidd ym Mhrydain
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Bydd y cwrs yn edrych ar y gelfyddyd eang ac eiconig a gynhyrchwyd yn ystod teyrnasiad Brenhines Fictoria (1837–1901).
Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar artistiaid penodol a symudiadau artistig o fewn cyd-destunau hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol.
Mae’r modiwl yn dechrau drwy archwilio sut oedd celf a diwylliant clasurol yr oesoedd canol yn cynnig ysbrydoliaeth i artistiaid, dylunwyr a phenseiri, fel Leighton a Alma-Tadema. Mae hefyd yn ystyried sut yr oedd cynnydd yn y dosbarthiadau canol yn darparu cynulleidfaoedd a noddwyr newydd i gelf ar ddechrau teyrnasiad Fictoria.
Mae’r cwrs yn ymchwilio i’r modd y mae cyfathrebu gweledol sy’n cael eu harddangos mewn argraffiadau, cartwnau, hysbysebion a deunydd mas a gynhyrchwyd yn darparu ac yn lledaenu agweddau tuag at ddosbarthiadau, moesau, hil a rhywedd.
At hynny, mae’r cwrs yn edrych ar ddatblygiad y pwnc drwy’r degawdau gan roi sylw penodol i ganol y ganrif a realaeth gymdeithasol y 1870-80au.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn dwy awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.
Cynnwys y maes llafur
- Wythnos 1: Cyflwyniad i gelfyddyd a chymdeithas oes Fictoria: dyma drosolwg o’r modiwl gydag ymarfer grŵp a briff aseiniad
- Wythnos 2: Y Gorffennol: bydd y wers hon yn archwilio ysbrydoliaeth glasurol a chanoloesol mewn celf, dyluniad, celf angladdol a phensaernïaeth Fictorianaidd.
- Wythnos 3: Ffisiognomi a chelf: bydd y wers hon yn archwilio’r siwdo-wyddoniaeth a ddefnyddir i farnu cymeriad a phersonoliaeth drwy siâp y pen a nodweddion wynebol.
- Wythnos 4: Celfyddyd Gynnar Oes Fictoria: mae’r sesiwn hwn yn archwilio chwaeth y dosbarthiadau canol newydd fel noddwyr ac fel cynulleidfa.
- Wythnos 5: Sylwebaeth gymdeithasol 1840au: mae’r wers hon yn ystyried cartwnau, lluniau a gwaith celf ddychanol sy’n gysylltiedig â’r degawd o gynnwrf cymdeithasol.
- Wythnos 6: Cyn Raffaliaid: mae’r wers hon yn edrych ar Frawdoliaeth Cyn Raffaliaid drwy archwilio gwaith ac ysbrydoliaeth aelodau gwreiddiol y sylfaenydd a’u cylch.
- Wythnos 7: Hanes Cymdeithasol 1850-60a: mae’r wers hon yn ystyried portreadau’r bywyd Fictorianaidd sy’n dangos (yn realistig neu beidio) tlodi, gwaith a hamdden.
- Wythnos 8: Hanes Cymdeithasol 1850-60b: mae’r wers hon yn ystyried portreadau’r bywyd Fictorianaidd sy’n dangos agweddau tuag at barchusrwydd moesol.
- Wythnos 9: Reolaeth cymdeithasol y 1870au a’r 1880au: mae’r wers hon yn archwilio gwaith realaidd artistiaid fel Frank Holl, Gustave Dore a Hubert Herkomer.
- Wythnos 10: Atgrynhoi’r modiwl a pharatoi ar gyfer yr aseiniad.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu portffolio o waith ysgrifennu o tua 1600 o eiriau.
Deunydd darllen awgrymedig
- Birchall, H. 2010. Pre-Raphaelites. London: Taschen.
- Pointon, M. 1997.History of Art: a Students Handbook. London: Routledge.
- Prettejohn, E. 2007.The Art of the Pre-Raphaelites. London: Tate Publishing.
- Rosenblum, R. and Janson, H.W. 2004.19th-Century Art. Harlow: Pearson
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.