Ewch i’r prif gynnwys

Deall Diwylliant Gangiau

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Dros gyfnod o 10 wythnos, bydd y cwrs hwn yn manylu ar beth yw diwylliant gangiau, gan roi darlun ichi o’r rhesymau pam mae pobl yn ymuno â gangiau.

Hefyd, fe gewch chi’ch cyflwyno i rai o'r prif droseddau y mae gangiau yn eu cyflawni, ynghyd â’r theorïau allweddol a all ein helpu i egluro’r rhesymau pam mae unigolion yn ymuno â gangiau, a pham maen nhw’n troseddu tra’n aelodau ohonyn nhw.

Dysgu ac addysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:

  • Deall beth yw diwylliant gangiau, a pha droseddau sydd fwyaf gyffredin ymysg gangiau.
  • Deall rhai o'r theorïau gwahanol a gaiff eu defnyddio’n aml er mwyn ceisio egluro cymryd rhan mewn gangiau

Gwaith cwrs ac asesu

Caiff y modiwl ei asesu drwy asesiad ysgrifenedig.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Murphy, T 2020 Criminology London: Sage Publishing
  • Newburn, T 2017 Criminology London: Routledge
  • Stainton-Rogers, W 2011 Social Psychology Maidenhead: Open University Press

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.