Ewch i’r prif gynnwys

Wcreineg i Ddechreuwyr 1

Hyd 12 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Dr Maryna Calder
Côd y cwrs UKR24A5560A
Ffi £230
Ffi ratach £184 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Mae'r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr llwyr, a chaiff Wreineg a’r diwylliant Wcreinaidd eu cyflwyno i’r myfyrwyr.

Bydd myfyrwyr yn ymarfer sgyrsiau sylfaenol a strwythurau ieithyddol.

I bwy mae’r cwrs hwn?

Anelir y cwrs hwn at ddechreuwyr llwyr sydd am ddysgu hanfodion yr iaith Wcreineg ac am ddiwylliant Wcrainaidd.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Caiff y cwrs hwn ei addysgu mewn ystafell ddosbarth rithwir (ar-lein).

Gwaith cwrs ac asesu

Portffolio gwaith cwrs a chymryd rhan yn y dosbarth. Mae ein hasesiadau’n hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysg.

Mae ein dulliau’n ceisio rhoi hyder i chi, ac rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn addas i oedolion prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir deunyddiau - bydd taflenni ac adnoddau ar gael ar Dysgu Canolog.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.