Ewch i’r prif gynnwys

Trobwyntiau mewn Hanes Cymru

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn yn archwilio themâu a digwyddiadau allweddol yn hanes Cymru o’r ymosodiad Rhufeinig hyd y presennol.

Dros 10 wythnos, bydd myfyrwyr yn archwilio amrywiaeth o drobwyntiau allweddol megis goresgyniad Lloegr ar Gymru, Gwrthryfel Owain Glyndŵr, deffroad diwydiannol y Cymoedd, ymddangosiad cenedlaetholdeb Cymreig a’r ffyrdd y mae’r ugeinfed ganrif wedi ffurfio Cymru fodern.

Yn ogystal â mynd i'r afael a’r effaith y cafodd digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol ar Gymru, bydd y cwrs hefyd yn ystyried y newidiadau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol a effeithiodd ar fywydau'r rheini a oedd yn byw yng Nghymru ac a brofodd y digwyddiadau hyn yn uniongyrchol.

Dysgu ac addysgu

Addysgir y modiwl hwn dros 10 sesiwn, dwy awr o hyd, wedi’u cyflwyno’n wythnosol.

Cyflwynir y dosbarthiadau drwy amrywiaeth o ddarlithoedd, gweithdai, ymarferion trafod a gwaith grŵp. Bydd myfyrwyr yn derbyn taflenni a rhestr ddarllen, sy’n caniatáu iddynt ddarllen am bynciau perthnasol, ac yn eu galluogi hefyd i ddatblygu eu diddordebau eu hunain a nodi’r cwestiynau allweddol y bydd gofyn iddynt eu hateb yn eu hasesiadau.

Amlinelliad o’r cwrs

  • Wythnos 1: Y Goresgyniad Rhufeinig a chymunedau cynnar Cymru
  • Wythnos 2: 1066 a beth yr oedd yn ei olygu i Gymru
  • Wythnos 3: Ataliad Lloegr a Gwrthryfeloedd Cymru
  • Wythnos 4: Cymru’r Tuduriaid
  • Wythnos 5; Y Rhyfel Cartref yng Nghymru
  • Wythnos 6: Y Chwyldro Diwydiannol
  • Wythnos 7:  Cymdeithas y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
  • Wythnos 8: Ar gyfer Cymru, gweler Lloegr: Genedigaeth Cenedlaetholdeb Cymreig.
  • Wythnos 9: Yr Ugeinfed Ganrif: Gwrthdaro, Protest ac Anghydfod
  • Wythnos 10: Cymru wedi’r rhyfel: Ffawd yn newid a gorwelion newydd

Themâu

  • Twf dinesig a’r boblogaeth
  • Y datblygiadau gwleidyddol ac economaidd a ffurfiodd Cymru
  • Effaith digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol ar Gymru
  • Bywyd y bobl: galwedigaethau, tai, addysg, crefydd, diwylliant, hamdden a chwaraeon
  • Dadleuon ynghylch diffiniad ‘Cymru’ a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymreig

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd gan fyfyrwyr yr opsiwn i naill ai ysgrifennu crynodeb/dadansoddiad ffynhonnell yn ogystal â thraethawd byr (750 gair) neu gynllun traethawd a thraethawd 1,500 o eiriau hefyd.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Carter, H., The Towns of Wales (Cardiff, 1965)
  • Davies, J., A History of Wales (London, 1990)
  • Gaunt, P., A Nation Under Siege: Civil War in Wales, 1642-48
  • Jenkins, G., H.  The Foundations of Modern Wales 1642-1780 (Oxford, 1993)
  • Jones, J. G., (ed), Class, Community and Culture in Tudor Wales (Cardiff, 1989)
  • Jones, I. G., Mid-Victorian Wales: The Observers and the Observed (Cardiff, 1992)
  • Moore, D., (ed.), Wales in the Eighteenth Century (Swansea, 1976)
  • Walker, D., Medieval Wales (Cambridge 1990)
  • Williams G., Renewal and Reformation Wales 1415-1642 (Oxford 1993)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.