Drwy’r Ysbienddrych: Trin a Thrafod Llenyddiaeth Siapaneaidd.
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Gemma Scammell | |
Côd y cwrs | LIT24A5600A | |
Ffi | £196 | |
Ffi ratach | £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Beth sy'n gwneud awduron fel Haruki Murakami a Kazuo Ishiguro mor boblogaidd?
Gan astudio amrywiaeth o nofelau Siapaneaidd poblogaidd wedi'u cyfieithu i'r Saesneg, byddwn ni’n trin a thrafod y cysyniadau a'r themâu allweddol a geir mewn llenyddiaeth Siapaneaidd gyfoes.
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ystyried y ffordd y mae llenyddiaeth Siapaneaidd yn trin a thrafod syniadau cyfoes am bwy ydyn ni, sut rydyn ni’n cysylltu â'n gilydd a'n hamgylchedd, a sut rydyn ni’n ymateb i arwahanrwydd.
Bydd y cwrs yn trafod sut mae awduron o Siapan yn trin pynciau fel galar, unigrwydd, llencyndod, marwolaeth a salwch, yn ogystal â chost cynnydd technolegol.
Dysgu ac addysgu
Bydd y modiwl hwn yn cael ei gynnig ar-lein. Byddwn ni’n cynnal cyfarfod dwy awr unwaith yr wythnos (20 awr cyswllt i gyd) a fydd yn cynnwys trafodaethau, ymarferion, darlithoedd a thasgau ysgrifennu myfyriol.
Caiff dysgwyr eu hannog i ddarllen y testunau a gyflwynir, cwblhau’r tasgau myfyriol wythnosol a chael adborth gan y tiwtor ac aelodau eraill y grŵp.
Bydd dolenni perthnasol i adnoddau, taflenni dosbarth, a chyflwyniadau PowerPoint ar Dysgu Canolog a Microsoft Teams.
Cynnwys y maes llafur:
Byddwch chi’n trin a thrafod y materion a’r themâu allweddol canlynol:
- Y gwahaniaethau rhwng llenyddiaeth Siapan a llenyddiaeth y Gorllewin
- Sut y mae senarios posibl sy’n ymwneud â datblygiad technolegol a'i ganlyniadau yn y dyfodol yn cael eu portreadu (ôl-ddyneiddiaeth)
- Sut y mae arwahanrwydd o ran rhyw, hunaniaeth, salwch a marwolaeth yn cael ei bortreadu.
- Sut y mae natur yn cael ei phortreadu mewn llenyddiaeth Siapaneaidd i gyfleu cyflwr emosiynol mewnol y prif gymeriad.
- Sut y mae amodau corfforol a chymdeithasol yn Siapan yn cael eu portreadu. Byddwch chi’n trafod y syniad Bwdhaidd o mujó (byrhoedledd) yn y nofelau ar y rhestr ddarllen ac yn ystyried y syniad nad oes unrhyw beth yn para am byth.
- Hierarchaethau yn Siapan yn seiliedig ar alwedigaeth, rhyw, safle, a statws a sut mae'r rhain yn pennu lle rhywun mewn cymdeithas.
- Awduron gan gynnwys Kazuo Ishiguro, Haruki Murakami, Asako Yuzuki, Mieko Kawakami, a Banana Yoshimoto.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, mae’n rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.
Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ni ei dangos gerbron arholwyr allanol er mwyn inni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.
Diben ein dulliau yw ceisio cynyddu eich hyder, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion prysur.
Bydd myfyrwyr yn cwblhau myfyrdod beirniadol (400 gair) ar un o'r damcaniaethau allweddol a geir mewn llenyddiaeth Siapaneaidd, ynghyd a thraethawd (1400 gair).
Deunydd darllen awgrymedig
Testunau llenyddol
- Kazuo Ishiguro Clara and the Sun (2021)
- Haruki Murakami Sputnik Sweetheart (1999) and After Dark (2004)
- Asako Yuzuki Butter (2017)
- Mieko Kawakami All the Lovers in the Night (2011)
- Banana Yoshimoto Kitchen (1988)
- Toshikazu Kawaguchi Before the Coffee Gets Cold (2015)
- Natsuo Kirino Real World (2008)
Darllen Cefndirol:
- Miller, S. J. The a to z of Modern Japanese Literature and Theatre (2010)
- Marcus, M. Japanese Literature: from Murasaki to Murakami (2015)
- Shirane, H. Suzuki, T. & Lurie, D. B. (eds) The Cambridge History of Japanese Literature (2016)
- Cassegård, C. Shock and Naturalization in contemporary Japanese literature (2007)
- Aoyama, T. Reading food in modern Japanese literature (2008)
- Mejia, S. & Nikolaidis, D. ‘Through New Eyes: Artificial Intelligence, Technological Unemployment, and Transhumanism in Kazuo Ishiguro’s Klara and the Sun’ (2022)
- Murakami, F. Postmodern, feminist and postcolonial currents in contemporary Japanese culture: a reading of Murakami Haruki, Yoshimoto Banana, Yoshimoto Takaaki and Karatani Kojin (2005)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.