Ewch i’r prif gynnwys

Does unman yn debyg i gartref: Ysgrifennu'r Domestig 2

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae teuluoedd go iawn yn flêr. Mae cartrefi go iawn yn cadw cyfrinachau. Mae gan bob cymuned ei harwyr, ei dihirod, a'i hecsentrigion.

Bydd y cwrs dilynol hwn, y mae cryn alw wedi bod amdano, i Ysgrifennu'r Domestig yn ein tywys ar daith fanylach i’r lleoedd rydyn ni'n byw ynddynt, y gofodau rydyn ni'n eu rhannu, a'r perthnasoedd sy'n esblygu yno.

Gan archwilio cymysgedd o safbwyntiau, gan gynnwys y person cyntaf a’r trydydd person, micro a macro, byddwn yn edrych ar y teuluoedd rydyn ni'n cael ein geni iddynt, y teuluoedd rydyn ni'n eu creu, a'r hyn mae'n ei olygu i berthyn (neu beidio â bod yn perthyn).

Trwy gymysgedd o farddoniaeth a rhyddiaith, ffuglen a hunangofiant, byddwn yn llywio deinameg brodyr a chwiorydd; cysylltiadau rhwng y cenedlaethau; cariad rhamantus; cariad platonig; cariad tuag at ein hanifeiliaid anwes; synnwyr o'n cwmpas; a'r diffiniad o gartref.

Byddwn yn ail-greu/creu straeon wedi'u hysbrydoli gan lên gwerin teuluol a chwedlau lleol, wrth ddatblygu hyder yn ein storïa a mireinio ein greddf ar gyfer y gair ysgrifenedig.

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer awduron ag unrhyw lefel o brofiad a byddwch yn cael eich addysgu mewn amgylchedd sydd bob amser yn gynnes ac yn gefnogol. Gellir astudio'r cwrs hwn fel modiwl annibynnol neu fel dilyniant i Ysgrifennu'r Domestig.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth, a gwaith grŵp bach.

Maes Llafur

Fel arfer, bydd y maes llafur yn cynnwys amrywiaeth o ymarferion, darllen testunau, trafodaeth dan arweiniad tiwtor, a rhannu gwaith myfyrwyr, a bydd yn ymdrin â ffurfiau megis micro-ffuglen, y stori fer, y nofel a barddoniaeth.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd yn rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella. Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’r dysgu. Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, a gwnawn bob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.

Byddwch yn cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eich proses eich hun. Bydd y portffolio’n cynnwys tua 1500-2000 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch yn cael awgrymiadau darllen cynhwysfawr ar ddechrau'r cwrs. Nid oes angen darllen ymlaen llaw.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.