Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ardd Wyllt: Ydy hi mor newydd?

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Stephen Parker
Côd y cwrs HIS24A5565A
Ffi £196
Ffi ratach £157 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Ymrestrwch nawr

Mae'r unfed ganrif ar hugain yn newid mawr yn y ffordd yr ydym yn creu ac yn cynnal ein gerddi.

Mae newid yn yr hinsawdd, planhigion newydd a datblygu heriau dylunio yn cyfuno i greu deialog newydd sbon ynghylch yr ardd gyfoes.

Roedd William Robinson a Gertrude Jekyll o blaid arddull mwy naturiol o blannu … a chyfeirir atynt fel arfer yn yr arddull dylunio gyfoes a gwyllt hon; ond ni ddechreuodd gyda nhw!

Byddwn yn dechrau ar gyfandiroedd America, yr Almaen ac ymlaen i'r Iseldiroedd, lle byddai bridio planhigion a dylunio gerddi modern yn ffynnu o dan ddylanwad Moderniaeth a'r celfyddydau haniaethol. Bydd enwau mawr fel Mien Ruys, Karl Foerster a Willy Lange yn cael eu trafod.

Yna byddwn yn diweddaru pethau ac yn trafod rhai o’r enghreifftiau gorau o wneud gerddi cyfoes gan eiriolwyr y ‘Don Iseldiraidd’ fel y’i gelwir yn aml, er y cyfeirir ati yn ehangach fel y “Mudiad Lluosflwydd Newydd.”

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei addysgu drwy ddeg sesiwn dwy awr ar-lein, gan ymgorffori darlithoedd, seminarau a gweithdai.

Bydd y sesiynau hyn yn digwydd ar ffurf darlith awr o hyd gyda thrafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl yn dilyn hynny, bob tro.

Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac i gyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.

Cynnwys y maes llafur:

  • Heriau i erddi a garddio yn yr 21ain ganrif
    • Newid hinsawdd
    • Planhigion newydd
    • Heriau dylunio
  • Plannu naturiol a dylanwad canfyddedig William Robinson a Gertrude Jekyll
  • Moderniaeth, celfyddydau haniaethol a dylunio gerddi ar gyfandiroedd America, yr Almaen a'r Iseldiroedd
  • Y 'Ton Iseldiraidd' neu 'Fudiad Lluosflwydd Newydd' mewn dylunio gerddi cyfoes

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd rhaid i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella.

Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysg.

Mae ein dulliau ni wedi’u dylunio i gynyddu eich hyder, ac rydym ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Noel Kingsbury and Claire Takacs, Wild: The Naturalistic Garden (London: Phaidon, 2022)
  • Stephanie Mahon, Wild Gardens (London: National Trust Books, 2022)
  • Stephen Parker, England's Gardens: A Modern History (London: Dorling Kindersley, 2023)
  • Dan Pearson, Home Ground: Sanctuary in the City (London: Conran Octopus, 2011)
  • William Robinson, Rick Darke, The Wild Garden: Expanded Edition (Portland: Timber Press, 2010)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.