Y System Wleidyddol yng Nghymru
Hyd | 12 o gyfarfodydd wythnosol yn ogystal â 2 ysgol ddydd ar ddydd Sadwrn | |
---|---|---|
Tiwtor | Pauline Beesley | |
Côd y cwrs | PLT24A5135A | |
Ffi | £528 | |
Ffi ratach | £422 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i gyd-destun a chynnwys llunio polisïau datganoledig a chynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru.
Bydd yn archwilio i achosion a chanlyniadau pleidlais Cymru yn Refferendwm yr UE 2016, yr achos am ddiwygio etholiadol ac yn ystyried sut caiff deddfwriaeth ei greu yn Y Senedd.
Mae'r cwrs yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb yn y lleisiau a glywir yng Nghymru, yn ogystal â’r rheiny sydd â diddordeb yng Nghymru mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae hwn hefyd yn fodiwl sy’n werth 20 credyd ar y Llwybr i radd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y cwrs trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dadleuon y gellir cymryd rhan ynddynt. Bydd y myfyrwyr yn meithrin ac yn ymarfer sgiliau cyflwyno a thrafod, yn ogystal â meithrin sgiliau o ran dadansoddi gwybodaeth a defnyddio tystiolaeth i baratoi sail resymegol a dadl resymedig.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.
Asesir y cwrs trwy gyflwyniad/adroddiad ar un agwedd ar Lywodraeth Cymru. Gofynnir i’r myfyrwyr nodi agwedd ar fywyd cyhoeddus neu bolisi (e.e. ffioedd dysgu, papurau newydd Cymru, aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, ac ati), a llunio achos dros p’un a ydynt yn credu bod trefniadau llywodraethu presennol Cymru yn addas, neu a fyddai’r maes hwn yn elwa ar fwy neu lai o ddatganoli, neu hyd yn oed annibyniaeth ar y Deyrnas Unedig. Bydd disgwyl i chi gynnig dadl resymedig dros eich safbwynt, a hynny yn seiliedig ar gynnwys y cwrs ac ar ymchwil ac astudiaethau unigol.
Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.
Deunydd darllen awgrymedig
Efallai y bydd y myfyrwyr sy’n ymddiddori mewn materion Cymreig yn dymuno edrych ar Click on Wales – blog da ar faterion Cymreig, wedi’i letya gan y Sefydliad Materion Cymreig.
Efallai y byddwch hefyd yn dymuno astudio’r testunau canlynol:
- Wyn Jones, R. a Scully, R. (2012) Wales Says Yes: Devolution and the 2011 Referendum Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
- Rawlings, R. (2002) Delineating Wales: Constitutional, Legal & Administrative Aspects of National Devolution Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
- Trench, A. (2007) Devolution and Power in the United Kingdom Manceinion: Gwasg Prifysgol Manceinion
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.