Moeswers y Stori
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
A yw Dameg y Samariad Trugarog yn adlewyrchu'r gofal sydd arnom i ddieithriaid? Beth all anturiaethau Bilbo Baggins ein haddysgu am natur daioni a gwreiddiau drygioni?
P'un a'u bod wedi'u creu yn offer addysg foesol, yn heriau i foesoldeb sefydledig neu'n chwip o chwedleuon, mae storïau'n ffocws pwysig ar gyfer myfyrio moesegol a dychymyg moesol.
Bydd y modiwl hwn yn defnyddio storïau fel man cychwyn ar gyfer archwilio cwestiynau allweddol ym maes athroniaeth foesol.
Does dim angen unrhyw wybodaeth flaenorol am athroniaeth. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn athroniaeth a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n rhan o lwybr y Naratifau Mewnol, a bydd yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i chi fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.
Dysgu ac addysgu
wyneb ddwy awr o hyd. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd.
Bydd cyfle hefyd i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'i hwyluso gan amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog.
Gwaith cwrs ac asesu
Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau dau ddarn o waith a asesir a fydd yn dod i gyfanswm o tua 1500 gair. Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl mewn perthynas â chryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.
Deunydd darllen awgrymedig
Bydd darllen ac adnoddau yn amrywio yn ôl y themâu penodol yr eir i’r afael â nhw yn y modiwl. Gallai’r adnodd canlynol fod o ddefnydd i fyfyrwyr sy’n ystyried y modiwl hwn:
- Pojman, Louis P., ed. 2004. The Moral Life: An Introductory Reader in Ethics and Literature. 2il argraffiad Efrog Newydd a Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN: 0195166086.
Gall myfyrwyr archwilio adnoddau ar-lein cysylltiedig hefyd.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.