Y Tŷ Modern
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Mae pensaernïaeth ddomestig drwy gydol yr ugeinfed ganrif wedi ymateb i alwadau deuol diwydiannu a threfoli digynsail.
Yn y cwrs newydd hwn, byddwn yn trafod datblygiad y cartref modern, ei ddyluniad a'i gynnwys. O'r fila Fictoraidd i'r awydd ‘llai am fwy’ modernaidd, byddwn yn archwilio’r ddeialog newidiol o foderniaeth, deunyddiau, technoleg ac arddull bensaernïol.
Mae'r tŷ modern yn newid yn barhaus ac yn ddangosydd arddulliadol, cyd-destunol ac esthetig o ddiwylliant cyfoes.
Drwy gydol y cwrs newydd cyffrous hwn, rydym yn trafod y dylanwadau hanesyddol a swyddogaethol niferus gan ganolbwyntio'n benodol ar effeithiau newidiadau technolegol a dulliau iwtilitaraidd.
Yn ogystal, canolbwyntir ar ystyriaethau mwy cyfoes, megis newid yn yr hinsawdd a'r ymatebion pensaernïol i ddeunyddiau newydd a hen, y defnydd o adnoddau, a’r dyheadau am ragolygon newydd.
Byddwn yn trafod datblygiadau preifat a chyhoeddus, o dai un-tro sylweddol i ystadau enfawr a ddatblygwyd gyda nod a dyhead cymunedol.
Canolbwyntir yn benodol ar y newidiadau arddulliadol ac arloesol mewn hanes pensaernïol a thrafodir ac amlygir newidiadau esthetig a materol sylweddol fel y Bauhaus, Moderniaeth, Art Deco, Tai Parod ac Ôl-Foderniaeth.
Byddwn yn ystyried tai o Ewrop, America, Awstralia a Phrydain. Bydd maestrefi, arbrofi a rhywedd hefyd yn cael eu trafod yn ogystal â'r dylanwad cryf, yn enwedig ym Mhrydain ac Ewrop, o ddyheadau hanesyddol a syniadau traddodiadol o 'flas da'. Trafodir hefyd am gydymffurfiaeth faestrefol a arweiniodd at y Tudorbethan hollbresennol!
At hynny, rydym yn trafod rhywedd a hunaniaeth dosbarth, a oedd yn arbennig o arwyddocaol wrth greu'r maestrefi rhwng y rhyfeloedd.
Trafodir hyn ymhellach drwy drafod arddangosfeydd cyfoes, hysbysebu, a thechnegau gwerthu ac arbrofion arddulliadol datblygwyr wrth iddynt hyrwyddo ffordd o fyw a dyheadau maestrefol.
Mae'r Tŷ Modern wedi datblygu drwy nifer o newidiadau technolegol a chymdeithasol, ac eto mae’n parhau i fod yn warchodfa o'r byd ehangach ac yn gyfrwng ar gyfer cymaint o arbrofi a newid cymdeithasol.
Byddwn yn ystyried y modelau niferus a grëwyd ar gyfer y byw hwn, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gyda'r ffocws bob amser ar arwyddocâd yr arddulliau a'r amrywiad pensaernïol.
Trafodir sut y mae pobl yn byw ynddyn nhw, sut maen nhw wedi'u dodrefnu ac yn arwyddocaol, sut ymdrinnir â’r holl ddulliau dylunio mewnol a'i berthynas â'r byd awyr agored.
Dysgu ac addysgu
Bydd darlithoedd, astudiaethau achos a thrafodaethau grŵp.
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin neu eu gwella.
Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.
Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
Deunydd darllen awgrymedig
- The Modern House, Jonathan Bel, Artifice books on architecture; New edition (26 April 2016).
- The Iconic House: Architectural Masterworks Since 1900; Dominic Bradbury, Thames and Hudson Ltd; Illustrated edition (16 Aug. 2018).
- Atlas of Mid-Century Modern Houses, Dominic Bradbury, Phaidon Press; 1st edition (7 Oct. 2021).
- Mid-Century Modern Design: A Complete Sourcebook, Dominic Bradbury, Thames and Hudson Ltd; Illustrated edition (15 Oct. 2020).
- Mid-Century Britain: Modern Architecture 1938–1963, Elain Harwood, Batsford (14 Oct. 2021).
- Bauhaus. Updated Edition, Magdalena Droste , TASCHEN; updated edition (9 April 2021).
- Design of the 20th Century , Charlotte Fiell , TASCHEN; 0 edition (5 Sept. 2021).
- Ideal homes: Uncovering the history and design of the interwar house, Deborah Sugg Ryan, Manchester University Press; 2nd ed. edition (1 April 2020).
- Ideal Homes, 1918–39: Domestic Design and Suburban Modernism (Studies in Design and Material Culture), Deborah Sugg Ryan,Manchester University Press (6 Mar. 2018).
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.