Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Athroniaeth y Meddwl

Hyd 10 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Dr CleaRees
Côd y cwrs PHI24A5186A
Ffi £264
Ffi ratach £211 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Adeilad John Percival
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Ymrestrwch nawr

Sut gall cig feddwl? Ydy robot yn gallu teimlo poen?

A all cymhlethdod cyfrifiadurol esbonio ymwybyddiaeth? Allech chi oroesi marwolaeth gorfforol? Ydy peiriant yn gallu deall eich meddwl yn well na chi? Beth yw ewyllys rydd ac a oes gennych chi ewyllys rydd?

Beth sy’n eich gwneud chi yr un person â’r baban newydd-anedig oedd yn llefain yn groch wrth adael gwarchodaeth glyd croth ei fam?

Ydy’r rheol ‘un corff, un meddwl’ yn ddim amgenach na phenderfyniad plwyfol ynghylch yr hyn sydd fetaffisegol gyfwerth â rheoliadau parcio lleol?

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno detholiad o gwestiynau athronyddol allweddol ynghylch y meddwl, rhyddid a hunaniaeth, gan dynnu ar naratif ffuglennol a ffeithiol i amlygu trafodaethau o destunau academaidd ffurfiol.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am athroniaeth.

Mae’r rhestr ganlynol o themâu enghreifftiol yn dangos y math o bynciau a allai gael eu trafod, ond bydd yr union faterion a ddetholir yn amrywio:

  • Athroniaeth y meddwl: y broblem meddwl-corff; natur meddyliau/damcaniaethau’r meddwl; ymwybyddiaeth a hanfodion; rhith-ddeallusrwydd.
  • Metaffiseg: ewyllys rydd; hunaniaeth bersonol; natur yr hunan.
  • Themâu cysylltiedig mewn epistemoleg, megis hunan-wybodaeth.

Bydd y cwrs yn tynnu ar straeon o ffuglen a deunydd ffeithiol i esbonio’r amryw safbwyntiau damcaniaethol sydd i’w trafod gan annog pawb i roi enghreifftiau eraill o’i brofiad ei hun o ddarllen ehangach.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn athroniaeth a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n rhan o lwybr y Naratifau Mewnol, a bydd yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i chi fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys naw uned wedi'u rhannu'n themâu. Mae pob uned yn cynnwys sesiwn wyneb yn wyneb 2 awr o hyd rhwng 19:00 a 21:00.

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd.

Bydd cyfle hefyd i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'i hwyluso gan amgylchedd dysgu ar-lein y Brifysgol, Dysgu Canolog.

Gwaith cwrs ac asesu

Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau dau ddarn o waith a asesir a fydd yn dod i gyfanswm o tua 1500 gair.

Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn cael adborth manwl ynghylch y cryfderau a’r meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd darllen ac adnoddau yn amrywio yn ôl y themâu penodol yr eir i’r afael â nhw yn y modiwl. Efallai y bydd yr adnodd canlynol yn ddefnyddiol i fyfyrwyr sy’n ystyried y modiwl hwn:

Hofstadter, Douglas R. a Daniel C. Dennett (eds), The Mind’s I: Fantasies and Reflections on Self and Soul (Efrog Newydd: Basic Books, 1981). Antholeg yw hon sy’n cyfuno detholiadau o ffuglen, gwyddoniaeth ac athroniaeth gyda thrafodaeth adlewyrchol a dadansoddi. Mae hefyd yn cynnwys rhestr ddisgyrsiol o ddarllen pellach sydd wedi ei threfnu yn ôl thema ac yn cyfateb i strwythur cysyniadol yr antholeg. Er nad yw hon yn cwmpasu’r ddadl gyfredol, mae’n cynnig man cychwyn hygyrch iawn ar gyfer archwilio pellach; mae’n cyflwyno llawer o gwestiynau sy’n parhau i fod wrth graidd y drafodaeth athronyddol.

Efallai y bydd myfyrwyr hefyd am archwilio adnoddau cysylltiedig ar CFrees.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.