Stori Tylwyth Teg Tywyll: Llysfamau, Fampirod ac Arwresau
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Juliette Wood | |
Côd y cwrs | FOL22A5485A | |
Ffi | £175 | |
Ffi ratach | £140 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Adeilad John Percival |
Mae straeon y tylwyth teg gyda ni drwy gydol ein hoes. Rydym yn eu clywed fel plant, yn eu darllen yn yr ysgol, ac yn dod ar eu traws mewn ffilmiau, llenyddiaeth ffantasi, a theatr.
Ond nid yw pob stori tylwyth teg yn gorffen 'yn hapus byth wedyn'. Weithiau maen nhw'n llawn tywyllwch, bygythiadau a bwystfilod.
Bydd y cwrs hwn yn archwilio cyd-destunau sy'n amrywio o'r brodyr Grimm a Hans Christian Anderson i Wlad Groeg hynafol, gan gynnwys Tsieina a Japan a, hyd yn oed yn gynharach, India Vedic.
Byddwn yn archwilio'r rhesymau dros boblogrwydd y stori tylwyth teg dywyll mewn diwylliant modern a'r amryfal ffyrdd y mae ochr dywyll testunau straeon tylwyth teg clasurol wedi'u trawsnewid mewn llenyddiaeth, celf, gemau rhyngrwyd, teledu a ffilm.
Bydd y cwrs yn ystyried ystod eang o bynciau, o weithiau ffantasi adnabyddus i ffynonellau mwy anarferol, a rhyfeddol efallai. Ond, yn bennaf oll, byddwn yn ystyried pam mae'r straeon tylwyth teg tywyll hyn yn parhau i'n swyno ni heddiw.
Dysgu ac addysgu
Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno drwy ddeg sesiwn gan gynnwys darlithoedd ac yna trafodaeth dosbarth ar bynciau penodol ynglŷn â'r modiwl.
Bydd y drafodaeth yn eich galluogi i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.
Bydd y sesiynau trafod a'r darlithoedd yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i’r myfyrwyr trwy Dysgu Canolog.
Maes Llafur:
- Beth sy'n gwneud stori dylwyth teg yn dywyll?
- Casglu straeon tylwyth teg, o'r hen fyd i'r Brodyr Grimm.
- Mamau, bwystfilod, a chymeriadau nad ydyn nhw fel maen nhw i'w gweld
- A all arwresau traddodiadol ymaddasu i beryglon modern?
- Teithiau peryglus i fydoedd eraill
- Ellyllon, ysbrydion, tylwyth teg drwg, a bodau goruwchnaturiol eraill
- Hudoliaeth dywell a dewiniaid drwg mewn ffuglen draddodiadol a chyfoes
- Cariadon cythraul, fampirod a herwyr
- Wynebu Tad Angau – dihirod go iawn y genre tylwyth teg
- I’r Goedwig, cyfarfodydd â bleiddiaid, dynfleiddiaid a bwystfilod eraill
Gwaith cwrs ac asesu
Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:
- adolygiad beirniadol byr
- traethawd 1000 gair.
Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl mewn perthynas â chryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.
Deunydd darllen awgrymedig
- Cristina Bacchilega, Fairy Tales Transformed? Twenty-First-Century Adaptations and the Politics of Wonder (Detroit, MI: Wayne State University Press; 2013)
- Sidney Eva Matrix and Pauline Greenhill, Fairy Tale Films: Visions of Ambiguity (Logan, UT: Utah State University Press 2010)
- Jack Zipes, The Irresistible Fairy Tale: The Cultural and Social History of a Genre (Princeton: Princeton University Press, 2012)
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.