Ewch i’r prif gynnwys

Technoleg a’r Byd Digidol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r gweithiwr busnes proffesiynol uchelgeisiol i dri maes sy'n cynnwys defnyddio gwybodaeth sy'n debygol o fod yn hanfodol i'w bywyd gwaith yn y dyfodol.

  • Yn gyntaf, mae gwybodaeth yn agwedd bwysig iawn ar y byd modern y cyfeirir ato'n aml fel y gymdeithas wybodaeth fyd-eang. Byddwn yn ystyried ffyrdd y mae gwybodaeth yn sail i weithgareddau sefydliadol o safbwyntiau strategol, tactegol a gweithredol a'r sgiliau TG cysylltiedig sy'n ddefnyddiol.
  • Yn ail, mae sefydliadau'n sefydlu Systemau Gwybodaeth i reoli eu gweithgareddau ac fel sail ar gyfer newid a gwella eu gweithrediadau. Byddwn yn ystyried nifer o systemau gwybodaeth nodweddiadol o fewn busnes sy'n hybu eu gweithrediad.  Byddwn hefyd yn trafod ffyrdd y mae systemau gwybodaeth yn hanfodol bwysig ar gyfer rheoli gweithgareddau a pherthnasoedd â rhanddeiliaid allanol megis cwsmeriaid, cyflenwyr a phartneriaid.
  • Yn drydydd, defnyddir Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i gynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd systemau gwybodaeth ac arferion busnes. Adlewyrchir llawer o'r ffordd y mae busnes modern yn gweithio yn ei ddefnydd o TGCh a chymwysiadau TGCh. Byddwn yn trafod mewn termau busnes seilwaith TGCh cwmni nodweddiadol a thueddiadau posibl yn y dyfodol.

Dysgu ac addysgu

Addysgir y cwrs hwn trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau mewn grwpiau bach.

Ar ôl llwyddo yn y modiwl, dylai myfyriwr allu:

Gwybod a Deall:

  • Gwahaniaethu rhwng data a gwybodaeth a deall y berthynas rhwng gwybodaeth a gweithgarwch o fewn sefydliadau;
  • Deall y rôl y mae technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn ei chwarae yn y busnes modern;
  • Archwilio potensial trawsnewidiol TGCh yn yr amgylchedd busnes cyfoes;
  • Disgrifio'r ffyrdd y mae TGCh yn effeithio ar systemau economaidd, systemau cymdeithasol, systemau gwleidyddol a systemau ffisegol.

Gwaith cwrs ac asesu

Asesir y modiwl drwy asesiad ysgrifenedig.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Beynon-Davies, P. 2013. Business information systems. 2nd ed.  Basingstoke: Palgrave Macmillan

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.