Sbaeneg Sgyrsiol Ganolradd
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Hyd | Dydd Llun 1 Gorffennaf i ddydd Gwener 5 Gorffennaf 2024 | |
---|---|---|
Tiwtor | Paloma Galvez Corredor | |
Côd y cwrs | SPA23A4363A | |
Ffi | £148 | |
Ffi ratach | £127 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae’r cwrs dwys hwn yn addas i chi os ydych wedi gwneud 3 blynedd o astudiaethau rhan-amser ac rydych yn gallu cyfathrebu wrth wneud tasgau arferol lle mae angen cyfnewid gwybodaeth uniongyrchol ar faterion cyfarwydd a chyffredin.
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymarfer ac atgyfnerthu eich sgiliau iaith a siarad Sbaeneg yn hyderus.
Bydd 2 awr o hyfforddiant trwy weminarau byw ac 1.5 awr o baratoi ar gyfer pob sesiwn.
Bydd y pynciau’n cynnwys:
- Cwrdd â phobl newydd: siarad am eich hoff bethau a’ch diddordebau.
- Amser hamdden: siarad am wyliau a rhannu eich profiad.
- Bwyd a diod: mynd i gael tapas.
- Gwyliau a thraddodiadau cenedlaethol: profi ffordd wahanol o fyw.
- Teithio o amgylch Sbaen: darganfod ardaloedd newydd yn Sbaen. El camino de Santiago.
Mae cyn-gofrestru yn hanfodol
Byddwch chi’n cael yr holl ddeunyddiau.
Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein llwyfan dysgu ar-lein.
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac ymarfer. Fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth drwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.
Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs.
Gwaith cwrs ac asesu
Asesu Parhaus trwy gymryd rhan yn y dosbarth.
Deunydd darllen awgrymedig
Materials will be provided.
Audio material available via our online learning platform.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.