Sbaeneg i Ddechreuwyr Uwch
Hyd | Dydd Llun 7 Gorffennaf i ddydd Gwener 11 Gorffennaf 2025 | |
---|---|---|
Tiwtor | Belen Munguia-Peacock | |
Côd y cwrs | SPA24A4191A | |
Ffi | £157 | |
Ffi ratach | £135 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae’r cwrs dwys hwn yn addas i chi os ydych wedi gwneud blwyddyn o astudiaethau rhan-amser neu os gwnaethoch astudio lefel ‘O’ (TGAU) rhydlyd yn yr Almaeneg.
Cewch ddigonedd o gyfleoedd i ymarfer eich sgiliau sgwrsio Sbaeneg.
Mae croeso hefyd i fyfyrwyr sy’n ddechreuwyr.
Bydd 2 awr o hyfforddiant trwy weminarau byw ac 1.5 awr o baratoi ar gyfer pob sesiwn.
Cewch ddigonedd o gyfleoedd i ymarfer eich sgiliau sgwrsio Sbaeneg.
Bydd y pynciau’n cynnwys:
- cwrdd â phobl newydd
- siarad am beth ydym yn ei wneud ar wyliau
- hoff bethau a chas bethau
- llogi car
- prynu neu rentu tŷ
- mewn bwyty
Mae cyn-gofrestru yn hanfodol
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac ymarfer.
Fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth drwy amrywiaeth o weithgareddau cyfeillgarl a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.
Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs.
Gwaith cwrs ac asesu
Asesu parhaus trwy gymryd rhan yn y dosbarth.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.