Sbaeneg Sgyrsiol Uwchraddol
Hyd | Dydd Llun 7 Gorffennaf i ddydd Gwener 11 Gorffennaf 2025 | |
---|---|---|
Tiwtor | Susanna Echaves | |
Côd y cwrs | SPA24A4366A | |
Ffi | £157 | |
Ffi ratach | £135 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os ydych wedi treulio sawl blwyddyn (6+) o astudiaethau rhan-amser a/neu os oes gennych eisoes gwybodaeth dda o Sbaeneg a hoffech ymarfer eich sgiliau sgwrsio ymhellach.
Bydd y cwrs hwn yn gwneud defnydd helaeth o ddeunyddiau clyweledol a chewch ddigonedd o gyfleoedd i ehangu eich geirfa weithredol.
Bydd 2 awr o hyfforddiant trwy weminarau byw ac 1.5 awr o baratoi ar gyfer pob sesiwn.
Mae cyn-gofrestru yn hanfodol
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac ymarfer.
Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs.
Gwaith cwrs ac asesu
Asesu parhaus trwy gymryd rhan yn y dosbarth.
Deunydd darllen awgrymedig
Byddwch chi’n cael yr holl ddeunyddiau.
Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein llwyfan dysgu ar-lein
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.